Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu ein bod yn cael ein trin fel nad oes ots amdanom ni fel pobl Ddu ar hyn o bryd. Dim ond pan fydd bywydau Du o bwys hefyd y bydd bywydau pawb o bwys, nid dim ond bywydau Du. Oherwydd gallwn olrhain y mater yn ôl i gyfnod ein cyndadau, pan roedden nhw’n meddwl fod bod yn berson o liw yn golygu eich bod yn llai dynol, llai o barch i chi, a does dim ots am eich barn. A dod allan i ddweud wrthyn nhw bod ots amdanom ni, oherwydd rydyn ni oll yn fodau dynol ac mae gennym ni bob hawl i gael barn ar faterion.
Bydd cymryd rhan yn y brotest yma yn fythgofiadwy i mi oherwydd fe ddois gyda fy holl nerth, gyda’r bwriad o adael i bobl wybod fod hiliaeth yn uchel, ac ym mhobman, yn enwedig pan rydych chi wedi profi hiliaeth, rydych chi’n cymryd unrhyw gyfle i gael codi eich llais iddo gael ei glywed gyda’ch holl nerth.
Roedd stori George Floyd yn America yn sbardun i gymaint o bobl a dyma pam y gwnaethom ni godi allan. Ond fel unigolion, fe ddaeth pawb allan y diwrnod hwnnw i frwydro dros yr hyn maen nhw’n credu ynddo, oherwydd dim pobl Ddu yn unig oedd yno’ diwrnod hwnnw. Roedd gennym ni bobl wyn, pobl Asiaidd, pawb yn dod at ei gilydd i ddatgan nad yw hiliaeth yn cael ei dderbyn. Dim ots pwy. Efallai mai eich brawd ydi o, eich plentyn efallai, neu eich partner. Dydyn ni ddim eisiau hiliaeth yng Nghymru. Rydw i eisiau i hiliaeth ar ei holl ffurfiau gael ei daflu allan o Gymru. Fel mam gyda phlentyn ag anghenion arbennig sy’n ddieiriau, roedd yn dorcalonnus gwylio George Floyd yn galw am ei fam, oherwydd allwn i ddim dioddef dychmygu fy mhlentyn i yn y sefyllfa yna yn methu galw amdana’ i oherwydd ei fod yn ddieiriau, ac mae o wedi dioddef hiliaeth a chamdriniaeth droeon oherwydd lliw ei groen.
Fe wnes i brofi hiliaeth yn bersonol gyda fy nghymydog pan wnes i symud i mewn i fy nghartref newydd. Mae’r ardal yn llawn teuluoedd gwyn yn bennaf ac fe wnes i symud i mewn fel dynes Ddu, a chododd hynny gwestiynau ynghylch pwy oeddwn i, beth roddodd yr hawl i mi fyw yno, ac oherwydd hyn, penderfynodd fy nghymydog y drws nesaf fod yn sarhaus ac yn anghroesawgar dros ben. Cefais fy nhrin mor ddrwg bu’n rhaid i mi gysylltu â’r heddlu ac es i mor bell â chael gosod camera CCTV yn fy eiddo am fy mod yn fam sengl gyda dau blentyn ifanc.
Fy nghyngor i yw brwydrwch dros eich hawliau. Mae gennych chi’r hawl i fyw bywyd rhydd. Mae gennych chi’r hawl i fod yn rhydd. Peidiwch byth gadael i unrhyw un eich gwthio i lawr na sathru arnoch chi. Peidiwch byth rhoi’r cyfle i unrhyw un sathru ar eich hawl. Brwydrwch dros eich hawl. Dim ots pwy ydych chi, dim ots o ble’r ydych chi’n dod, mae gennych chi’r hawl i fod yn rhydd.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.