BLM CODI CYMRU logo web

Musonda Mabula

Protest location

BLM Port Talbot

Share

Gan ein bod yn yr 21ain ganrif, mae’n drist gweld erchyllterau o’r fath. Ond roedd yn bwynt da i ni fel pobl ddysgu ganddo ac fe wnaeth ein gwneud yn gryfach, a dyna pam y bu’n rhaid i ni fynd ati gyda’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys i bwysleisio pwysigrwydd sensiteiddio. Helpodd technoleg ni i weld yn union beth oedd yn digwydd mewn amser go iawn, ac er ei fod yn ddinistriol, roedd yn sbardun i’r mudiad hwn, a dyma ni oll yn dod ynghyd fel cymuned fach ym Mhort Talbot i brotestio.

Dim ond unigolion cul eu meddwl fyddai’n cyfyngu’r brotest hon a’r achos rydym yn ymladd drosto i leoliad penodol. Rydyn ni’n gorfod ein cefnogi ni’n hunain oherwydd gallai’r hyn a ddigwyddodd i George ddigwydd i unrhyw un a dyna pam mae angen i ni ddod at ein gilydd i rannu syniadau ar sut y gallwn symud ymlaen ar ein siwrneiau personol.
Mae Cymru Wrth-hiliol yn uchelgeisiol iawn oherwydd mae hiliaeth yn treiddio’n ddwfn i wead cymdeithas, a chymdeithas sy’n ein siapio. Fodd bynnag, mae’n ganmoladwy bod sgyrsiau a gweithredu’n digwydd ymhlith fy nghenhedlaeth i, a gobeithio bydd y genhedlaeth nesaf yn gorffen y gwaith hwnnw, er bod hynny am gymryd amser.

Rwyf wedi bod yn ffodus a chael fy nghroesawu’n dda iawn yng Nghymru, ond o fewn fy nghylch, mae yna bobl sydd wedi profi ymosodiadau a chamdriniaeth hiliol.

Fe wnaethom ni ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael cyhoeddusrwydd a rhannu’r neges ac fe ddenodd hynny lawer o bobl o bob cwr. Fe gawsom ni rai pobl, bron i 100, i gymryd rhan yn cynnwys cynghorydd Port Talbot. Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd bod yn rhan o’r mudiad cadarn hwn.

Rwy’n dod o gefndir ble mae gweithredu wedi’i wreiddio ynof fi oherwydd ein diwylliant o gadw gyda’n gilydd, Wuntu ydyn ni’n galw hyn. Cefais fy nysgu na ddylwn fyth gadw’n dawel yn wyneb anghyfiawnder ac roedd hynny’n ymestyn i fy nghyfranogiad yn y brotest Mae Bywydau Du o Bwys. Doedd fy nghyfranogiad i ddim oherwydd beth ddigwyddodd i George Floyd yn unig, ond er mwyn grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ehangach.

I genedlaethau’r dyfodol: ewch ati i fyw eich bywyd yn y ffordd rydych chi’n teimlo fel gwneud. Peidiwch â gadael i neb orchymyn dim i chi. Cofiwch bob amser, caiff pawb ei eni yn unigolyn, ac rydych chi’n mynd yn ôl i ble daethoch chi ohono fel unigolyn. Rydyn ni’n dod yma i ddysgu ac i wneud y Ddaear yn well lle. Fy moto i yw, os byddaf yn gadael y Ddaear yn well nag yr oedd pan gyrhaeddais i, mae hynny’n beth da. Gwnewch rywbeth y byddech yn cael eich cofio amdano. Gadewch etifeddiaeth i’r person a ddaw ar eich ôl. Os bydd rhywun yn gofyn i mi pwy ydw i, yna fe fydda i’n dweud: ti ydw i, yn edrych arnaf i drwy dy lygaid di. Rydyn ni’n un er ein bod wedi cael ein gorfodi i feddwl ein bod ar wahân, ond dyna ledrith sy’n perthyn i’r hen system. Y system newydd yw, rydyn ni oll yn un.
Jyst ewch ati i fyw eich bywyd gorau a sefyll drosoch eich hunain a’r bobl o’ch cwmpas.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content