BLM CODI CYMRU logo web

Suchitta Chaplin

Protest location

BLM Caernarfon

Share

Pan gyrhaeddais i yma, roeddwn i fel arfer yn mynd mewn tafarn sydd y tu ôl i’r Montgaloy. A phob tro pan fyddai pobl yn dod i mewn, mi fydden nhw’n dweud pethau fel ‘Be’ ti’n ’neud yn fa’ma?’ ‘Pam na wnei di fynd adref?’, ‘Pwy ddaeth â chdi yma?’. Dydi o ddim yn rhy ddrwg pan mae’n digwydd i mi, achos dwi’n ddynes. Ond mae fy mhlant yn profi hyn hefyd, a hynny sy’n effeithio arnaf i fwyaf oherwydd roedd fy mab yn arfer cael ei alw’n Qing yn yr ysgol oherwydd ei wedd Asiaidd ac mae fy merch yn edrych yn fwy hil gymysg. Felly, hi fel arfer yw’r un sy’n sefyll dros ei brawd. Felly, mae’n ofidus iawn gweld pethau’n aflonyddu ar eich plant.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi gefnogi pobl Caernarfon. Mae 80% ohonyn nhw’n neis iawn ac rydw i’n ffitio i mewn yn dda iawn. Ond mae’n bosib y bydd angen inni frwydro yn erbyn yr 20% arall ac addysgu’r genhedlaeth newydd. Roeddwn i’n rhedeg y dafarn; ti’n cael pobl wedi meddwi pan ti’n gweithio mewn tafarn. Dwi’n derbyn hynny. Ond pan mae fy mhlentyn i’n gorfod mynd drwy hynny yn yr ysgol, alla’ i ddim derbyn hynny, achos dyna’r genhedlaeth newydd rydan ni’n ceisio ei haddysgu.

Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu codi allan gyda llais nad oedd gen i erioed o’r blaen. Mae’n ddigon posib, dwi’n siŵr nad yw llawer o bobl sy’n sefyll dros Mae Bywydau Du o Bwys erioed wedi mynd i brotestio o’r blaen.

Mae hiliaeth yn digwydd ym mhobman. Mae hynny’n cynnwys fy ngwlad i fy hun lle cefais fy ngeni. Mi ddigwyddodd yng Ngwlad Thai i’r Indiaid ac i bobl gyda chroen o wahanol liw neu o gefndir gwahanol. Mi ddigwyddodd i fy ffrind sy’n hoyw. Felly, dwi ddim yn meddwl mai dim ond Mae Bywydau Du o Bwys ydi hyn. Mae trefnwyr Mae Bywydau Du o Bwys yn dod ag amrywiaeth a chydraddoldeb allan, sy’n dod â ni i gyd at ein gilydd.
Roedd marwolaeth George Floyd yn erchyll, achos does dim angen i ni fod mor dreisgar, yn lle hynny gallwn gyfathrebu ychydig yn well. Efallai y gallwn ni ddechrau deall brwydrau pobl eraill a deall pam mae pobl yn ymddwyn fel y maen nhw.

Dydw i erioed wedi gwneud hyn o’r blaen, ond fe wnes i astudio seicoleg glinigol, sy’n fy helpu i ddeall bodau dynol; pwy ydyn nhw. Ond yr hyn ddaeth â mi yma oedd addysg, mae addysg yn cryfhau eich llais ac yn gwneud ichi fod eisiau deall mwy. Os bydda i’n addysgu pobl, mi allwn ni ddileu’r holl syniadau diddeall hyn.
Dechreuodd ym Mangor; es i i’r un yna. Soniodd Joe, a oedd yn rhan o’r trefnwyr, a minnau am wneud yr un fath yma er mwyn i bobl allu sylweddoli pa mor anodd yw hi i ni orfod cael y profiadau hyn. Daeth Joe a fi allan a gosod tâp i bellter o 2 fetr ar hyd y Maes, ac yna fe gawsom ni’n bwrw â geiriau cas. Ond i ni, mae’n golygu os oes rhaid i chi sefyll, yna rydach chi’n sefyll. Beth bynnag, rydych chi’n ofalus o gadw at y gyfraith oherwydd ei fod yng nghanol pandemig, mi allech chi fod yn lledaenu’r firws. Mi wnaethon ni ddilyn y canllawiau ac roedd pobl yn cadw pellter cymdeithasol iach. Fe wnaethon ni ddilyn popeth felly wnaethon ni ddim torri unrhyw reolau. Roeddwn i eisiau i bobl glywed fy llais. Rydw i am i bobl wybod ei fod yn digwydd. Ac rydw i eisiau i bobl wybod hefyd bod fy mhlant i’n mynd drwyddo fo. Ac rydan ni eisiau i hyn gael ei glywed gan bawb, er mwyn inni allu addysgu ein cenhedlaeth ifanc i beidio â gwneud hynny, a dechrau derbyn bodau dynol eraill.

Fe hoffwn i ddweud edrychwch ar yr hanes, a jyst gwneud yn siŵr nad ydi o’n digwydd yn y dyfodol. Rydan ni i gyd yn fodau dynol a does dim ots pa liw. Rwy’n Asiaidd ac mae llawer o bobl yn ei alw’n groen melyn. Maen nhw’n bobl wyn ac maen nhw’n Gymry. Maen nhw’n cael profiad o hiliaeth trwy’r Saeson ac mae hyn i gyd yn gweithio’r ddwy ffordd. Cyn belled ag y gallwn fod yn ffeind efo’n gilydd a byw ein bywyd ein hunain, dyna’r ffordd orau o fyw.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

No results found.
keyboard_arrow_up
Skip to content