Fel person Du, dyw hyn ddim yn golygu dweud bod Bywydau Du o Bwys ddim mwy na bywydau neb arall, dim ond dweud bod angen i fywydau Du fod o bwys o ran sut mae pobl Ddu yn cael eu trin yn y Deyrnas Unedig. Mae’n fater systemig sydd wedi bod o gwmpas cyhyd, nid yn America yn unig, ond yn y Deyrnas Unedig hefyd. Dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn ddieuog o ran hiliaeth ac mae’r mudiad yn ymwneud â thaflu goleuni ar hynny a datgelu anghyfiawnder hiliol yn enwedig o ganlyniad i amgylchiadau marwolaeth George Floyd a arweiniodd at brotestio enfawr ledled y Deyrnas Unedig a ledled y byd. Roedd yn ystod y Pandemig; roedd pobl yn sownd yn y tŷ. Roedd pobl ar eu ffonau a doedden nhw ddim yn cael rhyngweithio y tu allan. Felly, pan ddaeth y fideo hwnnw i’r wyneb, roedd yn syfrdanol. Roedd yn teimlo fel bod pobl yn cael eu gorfodi i wylio’r fideo erchyll hwnnw. Ac roedd yn teimlo fel bod pobl o’r diwedd yn deffro i effaith ofnadwy hiliaeth. Nid pobl Ddu yn unig, ond pobl wyn, hefyd. Mae hiliaeth yn real, ac mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Ond ddylai hi ddim cymryd llofruddiaeth George Floyd er mwyn i hynny ddigwydd.
Doeddwn i erioed wedi trefnu protest o’r blaen. Hon oedd y gyntaf i mi a doedd gen i ddim profiad o drefnu protestiadau. Ar adeg lladd George Floyd, roeddwn i’n teimlo bod llawer o bobl o liw, nid yn unig yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig i gyd, ond yn fyd-eang, yn teimlo’n ddiymadferth ac yn teimlo’n ofnadwy, ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth, ond heb wybod beth i’w wneud mewn gwirionedd. Yna daeth y cyfle pan welais yr hysbyseb yr oedd Selena wedi ei bostio ar Facebook, yn dweud ei bod am wneud rhywbeth. Felly, penderfynais fy mod yn mynd i fod yn rhan ohono, ac fe ymunais i.
Roedd cynnal y brotest hon yn deimlad anhygoel. Roedd bod yno’r diwrnod hwnnw yn brofiad grymusol dros ben. Doedden ni ddim yn disgwyl i lawer o bobl ddod. Ac unwaith y dechreuodd pawb rannu eu straeon a’u profiadau, roedd yn fendigedig. Roedd gan bawb rywbeth i’w ddweud am eu profiadau. Roedd yn wirioneddol brydferth.
Fe ddwedwn i mai’r profiad mwyaf o hiliaeth ges i oedd fy amser yn y brifysgol. Dyma beth y siaradais i amdano trwy gydol y brotest, mae’n debyg yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, roeddwn i’n cerdded lawr y stryd gyda fy ffrind gwyn ar y pryd. Roedd ger Woodville Road, a oedd yn ardal a oedd yn cynnwys llawer o fyfyrwyr yng Nghaerdydd. Roedd fy ffrind a minnau’n cerdded adref, ac roedd criw o ddynion ifanc yn cerdded heibio’r ffordd arall, ac roedd un ohonyn nhw’n gwneud synau mwnci arnaf, a’r gweddill yn ymuno â nhw. Roedd yn erchyll. A wnaeth fy ffrind ar y pryd ddim cydnabod beth ddigwyddodd. Cefais fy ngadael yn teimlo nad oedd unrhyw beth wedi digwydd mewn gwirionedd. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn colli arnaf ac roedd brofiad yn ofnadwy, ac fe wnes i droi fe i mewn arnaf fi’n hun am gyfnod mor hir.
Rwyf wedi bod yng Nghaerdydd ers chwe blynedd bellach, ac rwy’n cofio o’r adeg y symudais yma gyntaf o’i gymharu â heddiw, yn bendant mae yna newid wedi bod yn yr egni, yn enwedig pan fydd pobl yn siarad am hil. Rwy’n gweld mwy o bobl Ddu a phobl o ethnigrwydd arall o gwmpas. Mae pobl yn teimlo’n fwy diogel. Maen nhw eisiau siarad am bethau, ac rwy’n meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, bod pobl yn deall pwysigrwydd bywydau pobl, gan gynnwys bywydau pobl Ddu, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Fe ddwedwn i, os ydych chi’n teimlo’n gryf neu’n angerddol am rywbeth sydd o’i le a’ch bod chi eisiau dweud eich dweud amdano, yna ewch ati a gwneud hynny. Does dim angen profiad arnoch; does dim angen unrhyw beth arnoch. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol am rywbeth, yna ewch i siarad ac fe wnaiff pobl wrando.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.