I mi, ystyr Mae Bywydau Du o Bwys yw grymuso pobl Ddu i gael llais a sefyll dros yr hyn maen nhw’n credu ynddo, ac yna wedyn, gobeithio, ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath.
Mae’n hurt bost bod rhai pobl yn dweud fod Mae Bywydau Du o Bwys yn rhywbeth sy’n ymwneud ag America ond dim Cymru neu Bort Talbot. Ar y diwrnod, pan ddaeth pawb a rhannu eu profiadau, roedd yn hawdd gweld bod hiliaeth yn beth go iawn ym Mhort Talbot llawn cymaint ag y mae yn America neu o amgylch y byd, mae’n fater byd-eang. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi datgan drwy gyfrwng y Prif Weinidog y dylai Cymru fod yn Genedl Wrth-hiliol erbyn 2030 yn gwneud i mi deimlo ein bod yn symud i’r cyfeiriad iawn. Mae llawer o newid wedi cael ei sbarduno gennym ni ac mae angen i ni ei gadw i fynd.
O ran trefnu’r brotest yng nghanol pandemig, ein blaenoriaeth gyntaf oedd cadw pellter cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pawb yn saff. Fodd bynnag, ymateb yng ngwres y funud i lofruddiaeth George Floyd oedd e, a phe bai’r brotest wedi digwydd ar unrhyw adeg yn nes ymlaen, fyddai o ddim wedi cyfleu’r un pwysau na phŵer.
Dyma oedd y peth cyntaf imi erioed ei drefnu, ac roedd hynny’n beth da i mi oherwydd rwy’n credu fy mod wedi gwneud yn dda, ac mae’n rhywbeth rwy’n angerddol iawn drosto. Gan mai dyma fy mhrotest gyntaf erioed o unrhyw fath, roedd fy mam a fy ewythr yn help mawr i mi ac yn rhan annatod o’r gwaith trefnu. Roedden nhw’n help mawr gyda’r cwbl, er mai fy syniad i oedd e’n bennaf. Roedd bod yn y sefyllfa honno gyda chymaint o bobl wedi ateb fy ngalwad, yn cydsefyll, roedd hynny’n beth swrrealaidd a phwerus iawn. Doeddwn i ddim yn disgwyl y lefel o gefnogaeth a gawsom ar y diwrnod hwnnw, ond rwy’n cofio camu allan a gweld yr holl bobol hynny, eu clywed yn siarad ac yn rhannu eu profiadau. Roedd yn anhygoel ac yn emosiynol iawn i mi.
Fe wnes i wynebu llawer o hiliaeth yn yr ysgol. Esiampl drawiadol oedd pan ddwedwyd wrthyf nad oedd yn bosibl mai fy mam oedd fy mam oherwydd mae hi’n fenyw Ddu a dydw i ddim. Mae pobl hefyd wedi dweud wrthyf nad yw fy ngwallt yn wallt dyn gwyn, ymysg sylwadau a phrofiadau hiliol eraill rwyf wedi’u profi dros y blynyddoedd sydd wedi aros gyda mi.
Rwyf hefyd yn cofio gwylio George Floyd yn cael ei ladd ar y cyfryngau cymdeithasol yn glir iawn. Roedd gweld bod swyddog heddlu gwyn wedi penlinio ar wddw George Floyd am 9 munud a 27 eiliad gan arwain at ei farwolaeth a neb yn gwneud unrhyw beth i’w stopio yn gwbl atgas. Fe daniodd rhywbeth a dod a phopeth roeddwn i erioed wedi’i deimlo allan ohonof i.
Fe ddwedwn i wrth genedlaethau’r dyfodol i jyst defnyddio eu lleisiau oherwydd mai dyna eu hased mwyaf pwerus. Defnyddio’r dechnoleg ddigidol sydd o’u cwmpas, fel y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd teulu a ffrindiau. Mae angen iddyn nhw siarad allan drostyn nhw eu hunain, os oes ganddyn nhw broblem gyda rhywbeth, oherwydd gall hynny newid popeth.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.