BLM CODI CYMRU logo web

Roselyn Mbwembwe

Protest location

BLM Abertawe

Share

Fe wnes i dyfu i fyny yng Nghymru, ac roedd yr ysgolion a fynychais yn rhai gwyn yn bennaf. Fi oedd yr unig blentyn Du bob amser, a gwnaeth hynny imi sylwi fy mod yn wahanol i bawb arall ac fe effeithiodd arna i yn feddyliol, gan nad oes ar neb eisiau bod ar yr ymylon, yn enwedig yr oed hwnnw.
Un digwyddiad mawr rwy’n ei gofio yw cerdded wrth ymyl Theatr y Grand, ac roedd yno ddyn meddw, a dywedodd “pam na wnes di fynd adre i dy wlad dy hun? Rydych chi bobl Dduon jyst yma”. Doeddwn i’n methu ymateb, fe wnes i jyst dal i gerdded, ond fe effeithiodd arna i.
Fel merch Ddu yn gwylio fideos o George Floyd ar y cyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy, gan nad oes neb yn haeddu cael eu trin felly, yn enwedig oherwydd lliw eu croen. Roedd yn agoriad llygad.

Roedd yn bwysig gael protest ble gallai bobl ddathlu’r arwr a gollwyd a hefyd sefyll yn erbyn hiliaeth. Daeth y brotest â llawer o bobl ynghyd yn Abertawe, Caerdydd, Port Talbot, ac ati, gyda nod gyffredin o ddathlu bywyd George Floyd a galw am ddiwedd ar hiliaeth.

Er mai yn America ddechreuodd y mudiad hwn, mae’r un peth yn digwydd yn y Deyrnas Unedig. Dyw’r ffaith nad ydyn ni’n gweld swyddogion heddlu gyda gynnau’n lladd pobl o liw yn y Deyrnas Unedig ddim yn golygu nad yw’n digwydd, dyw e jyst ddim yn cael ei ddwyn i’r amlwg yn yr un modd ag y mae hynny wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau. Felly, mae hiliaeth yn bodoli yma yn y Deyrnas Unedig, mae gennym bobl Ddu yma, a dylid dathlu BLM ym mhobman, oherwydd mae Bywydau Du o bwys ym mhob rhan o’r byd.

Dyma oedd fy mhrotest gyntaf, er fy mod wedi mynychu a siarad mewn protestiadau eraill ar-lein. Fe wnaeth mynd i fy mhrotest gyntaf ddod ag atgofion yn ôl o pan roeddwn i’n iau, sut roeddwn i’n teimlo’n tyfu i fyny fel yr unig blentyn Du yn fy nghymuned, faint o’r emosiynau roeddwn i wedi’u claddu

Roedd gweld pobl yn dod ynghyd i sefyll yn erbyn problem gyffredin yn meddwl llawer i mi, ac roedd y brotest a gawsom yn hyfryd, yn gadarnhaol, ac yn emosiynol. Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o’r trefnu a bod yna ar lawr gwlad i fod yn dyst i’r mudiad a fyddai’n cael ei gofio mewn hanes, a chael y cyfle i ddweud wrth fy mhlant a fy wyrion am yr achos y gwnaethom frwydro drosto, i’r genhedlaeth iau gael bod yn gyfforddus yn tyfu i fyny yng Nghymru waeth bynnag lliw eu croen, a pheidio profi’r hyn a brofais i yn tyfu i fyny. Felly, rwyf i jyst yma i greu bywyd gwell i bawb, i wneud hynny allaf i, i wneud y byd y lle gwell.
Byddai’n wych gallu dychmygu byd gwrth-hiliol lle mae pobl o wahanol ethnigrwydd yn cael mwy o gyfleoedd, a ddim yn teimlo eu bod yn israddol oherwydd lliw eu croen neu’r wlad y maen nhw’n hanu ohoni.

Sefwch dros bethau’r ydych chi’n malio go iawn amdanynt, oherwydd fe all hynny wneud gwahaniaeth. Weithiau, rydych chi’n jyst teimlo fel nad oes neb am wrando arnoch chi, neu rydych chi’n teimlo nad oes gennych ddigon o hyder i ddweud beth sydd gennych i’w ddweud, jyst credwch ynoch chi’ch hun. Peidiwch byth â chadw’n dawel, difaru wnewch chi os byddwch yn peidio â dweud gair. Daliwch ati a byddwch yn wydn a dal i wthio nes cyrhaeddwch y lan. Cofiwch, fe fyddwch chi’n rhan o hanes un diwrnod.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content