Galwad i gael ein trin yn gydradd a chael yr un cyfleoedd â phawb arall yw Mae Bywydau Du o Bwys. Mae gennym hiliaeth systematig a sefydliadol o fewn sefydliadau mawr, ac rydyn ni’n cael ein trin yn wahanol. Ar ddiwedd y dydd, ddylai neb farw oherwydd lliw eu croen.
Gan feddwl yn ôl i’r brotest yn Wrecsam, pan welais i’r newyddion am George Floyd, fe wnaeth fy nharo, er nad dyma’r tro cyntaf, rwyf wedi gweld llawer o bobl Ddu’n cael eu lladd gan yr heddlu yn America, ond pan glywais i’r geiriau hynny ‘I can’t breathe’ a ‘Please leave me alone’, penderfynais mai digon yw digon! Mae’n fater difrifol y mae angen inni wneud safiad yn ei erbyn. Fe ddechreuodd fel syniad bach, drwy siarad gydag ambell aelod o’r gymuned, a thyfodd yn gannoedd o bobl, sy’n arwydd o’r diddordeb yn y mater, a thyfodd fel caseg eira o’r pwynt hwnnw. Roedd yn deimlad mor dda gweld y gymuned yn dod ynghyd.
BLM oedd fy mhrotest gyntaf erioed, er fy mod yn weithredol erioed mewn gwaith cymunedol, codi ymwybyddiaeth a phrosiectau cydlyniant, fe wnaeth y mudiad hwn ddeffro angerdd newydd.