Mae fy ngweithredu i’n deillio o fy mhrofiad yn fy arddegau pan roeddwn i’n newydd i’r wlad ac yn wynebu hiliaeth dan amgylchiadau trallodus. I ddechrau, fe wnaeth imi deimlo’n drist iawn ac yn ypset. Ond dyna mewn gwirionedd sydd wedi rhoi’r gwydnwch a’r dewrder a’r natur benderfynol i mi fod yn rhywun sy’n gweithredu. Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn ymwneud â dod â phobl ynghyd, pobl Ddu, pobl frown, a phobl o bob rhan o gymdeithas. Mae’n alwad ar bobl wyn i sefyll yn erbyn hiliaeth a brwydro dros gyfiawnder, yn enwedig yn dilyn llofruddiaeth greulon George Floyd. Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn alwad am gyfiawnder, newid, cydraddoldeb, dathlu ein hamrywiaeth, bod yn amlddiwylliannol, ein hawliau fel pobl Ddu a brown. Rwy’n cofio’n glir iawn, yn dilyn marwolaeth George Floyd, fe wnaeth hynny ryddhau rhyw ddicter, rhyw emosiwn yn y gymuned, ac roedd pobl eisiau dod allan a dangos eu parch a dangos eu cydsafiad a sefyll yn erbyn llofruddiaeth greulon George Floyd. Ac roedd yn dymor i ddod â phobl ynghyd, i uno pawb gyda’i gilydd. Dyna’r brotest gyntaf o’r fath a drefnwyd yn Abertawe yn dilyn marwolaeth George Floyd, ac fe ddaeth â llawer o wahanol fudiadau gwahanol ynghyd a fu’n rhan o adeiladu a pharatoi ar gyfer y brotest honno.
Mae Sefyll yn erbyn Hiliaeth yn fudiad eang sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer ac wedi bod yn rhan o sefydliadau sy’n eirioli yn erbyn hiliaeth mewn gwahanol rannau o’r wlad. Roedd yn ganolog iawn i drefnu gyda Mae Bywydau Du o Bwys yn dilyn marwolaeth George Floyd. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n cymryd yr agenda hon o ddifrif. Byddai’n dipyn o her diddymu hiliaeth erbyn 2030 ond mae’n werth rhoi cynnig arni. Y realiti yw ei bod yn mynd yn llawer gwaeth, yn nhermau lefel yr hiliaeth yng Nghymru. Rydym wedi gweld twf mewn Islamoffobia, gwrth Semitiaeth, cynnydd yr adain dde eithafol sy’n parhau i geisio cymryd mantais ar bobl sy’n teimlo dan anfantais ac wedi digalonni a nawr yw’r adeg y mae’r cynllun hwn yn un pwysig iawn. Nawr yw’r adeg inni oll barhau i weithio gyda’n gilydd a herio hiliaeth ble bynnag mae’n codi ei ben.
I was a refugee child who left Uganda in 1972 after Idi Amin came to power Roeddwn i’n ffoadur yn blentyn, gadewais Uganda yn 1972 wedi i Idi Amin ddod i rym a’r holl bobl Indiaidd gael eu bwrw allan, aethom i India a byw yno am ychydig flynyddoedd, a dod i Brydain yn 1977. Fe wnes i brofi hiliaeth pan gawsom ein bwrw allan o Uganda fel ffoadur a oedd yn blentyn, ac yn y 70au yn y Deyrnas Unedig, pan roedd y National Front ar dwf ac yn gryf iawn, yn cynnwys hiliaeth eiriol mewn ysgolion.
Mae hiliaeth yn parhau i fod wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein cymdeithas, yn cynnwys yng Nghymru, gan fod yna bobl Ddu yma sydd wedi marw o ganlyniad i hiliaeth. Mae pobl Ddu yn parhau i wynebu hiliaeth, hiliaeth sefydliadol, hiliaeth feddygol, hiliaeth addysgol, dim cystal cyfleoedd am swyddi a thai, mae pethau’n mynd yn llawer gwaeth. Yn nhermau’r argyfwng costau byw, fe ddwedwn ei fod yn effeithio’n anghymesur ar ein cymunedau lleiafrifol ethnig, a dyna pam mae angen inni siarad am hyn.
Rwy’n obeithiol dros genedlaethau’r dyfodol, y bydd y math o gymdeithas y byddan nhw’n byw ynddi yn gwbl wahanol, ble bydd hiliaeth wedi’i ddiddymu, ble na fydd anghydraddoldeb, ble bydd cytgord ac undod a dim casineb yn seiliedig ar liw croen neu ethnigrwydd neu gefndir diwylliannol pobl. Ac rwy’n obeithiol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw mewn cymdeithas sy’n fwy heddychlon ac unedig.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.