Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu byd ble mae pawb yn cael eu trin yr un fath yn union, waeth beth fo’r achlysur neu’r sefyllfa, waeth pa liw eu croen. Mae’n fyd ble mae cydraddoldeb yn ymdrechu yn ein mysg ni oll, a dyw’r melanin yn ein croen ddim yn diffinio’r ffordd y cawn ni’n trin, beth yw’r cyfleoedd sydd ar gael i ni, a ble byddwn ni’n ei gyrraedd yn ein hoes.
Y brotest gyntaf y bues ynddi erioed oedd ar 6 Mehefin, 2020, pan aeth y byd i gyd yn ferw gwyllt yn dilyn marwolaeth dorcalonnus George Floyd. Ar y diwrnod hwnnw, fe es i yno jyst i fod yn gyfranogwr. Roeddwn i am wrando ar yr hyn oedd gan bobl eraill i’w ddweud, ond roeddwn i’n ei deimlo fe o’r eiliad y camais i mewn i Barc Bute. Roedd fy emosiynau’n codi, roedd rhywbeth y tu mewn imi ar dân. Ac roedd yn rhaid i mi gamu ar y llwyfan hwnnw a siarad. A’r rheswm roedd yn rhaid i mi siarad oedd oherwydd, ar y diwrnod hwnnw, dywedwyd pethau a oedd yn amherthnasol. Roedd pobl yn gwneud datganiadau fel, mae pob bywyd o bwys. Wel ie, pe byddai pob bywyd o bwys, yna ni fyddai pobl Ddu yn dal i gael eu trin mor greulon fel y gwelwn ni heddiw. Ar y diwrnod hwnnw, dywedodd pobl nad oedd hiliaeth yng Nghaerdydd a dyna pryd y gwyddwn fod rhaid i mi sefyll a chynrychioli’r bobl. Fe siaradais i oherwydd roeddwn eisiau addysgu’r bobl o fy nghwmpas bod hiliaeth yn wir a chydnabod ei fod yn bresennol hyd heddiw. Dydy’r emosiynau hyn ddim yn dod o nunlle. Dydyn nhw ddim yn dod o lyfr, dydy hyn ddim yn dod o ffilm. Dyma bopeth rwyf wedi byw drwyddo, o ddydd i ddydd. Ac mae’r gwir yn rhywbeth na ellir ei wadu. A phan rydych chi’n cydio’r gwirioneddau hynny, a phan rydych chi’n cael y profiadau hynny, allwch chi ddim fforddio bod yn ddistaw.
Rydyn ni’n gwaedu’r un lliw. Rydyn ni’n corddi. Sut all pobl Ddu fyth anadlu pan nad ydych chi’n rhoi cyfleoedd i ni? Mae’r holl newidiadau hyn yn peri pryder i bobl. Felly gyda’n gilydd, fe safwn i frwydro cymdeithas. Y cwbl rydyn ni’n gofyn amdano yw ychydig o barch. Rydych chi’n defnyddio’r cyfryngau i ledaenu haint gwleidyddol. Pe byddai pob bywyd o bwys go iawn, nid dynion Du’n unig fyddai’n cael eu curo. Alla’ i ddim dal fy nhafod mwyach. Felly, fe wna i waeddi i’n gwneud ni’n gryfach. Mae angen undod arnom i roi diwedd i’r rhwyg. Diweddarwch eich polisïau, mae angen eu hadolygu. Mae angen inni ddeall nad ar gyfer y dyn gwyn yn unig y mae’r wlad hon. Efallai nad ydych chi’n meddwl ei fod [hiliaeth] yn dal i fodoli. Felly, fe wna i geisio’ch addysgu. Rwy’n mynnu eich bod yn mynd a gofyn eich cwestiynau a gweld pa mor bell cewch eich arwain gan eich twyll. Agorwch eich llygaid a dewch inni aros yn effro heddiw i bob un ohonoch, meddai Queen NICHE. Rwy’n fenyw Fwslimaidd, Affricanaidd ac Asiaidd.
Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn gwbl berthnasol i Gymru oherwydd sut oeddwn i’n gallu uniaethu â mudiad oedd yn digwydd mewn gwledydd eraill, ond a oedd mor arwyddocaol o debyg yn ein gwlad ni? Felly, os oes unrhyw un yn meddwl mai dim ond America mae hyn, meddyliwch eto, oherwydd mae’r anghyfiawnder yn bodoli yma llawn cymaint ag y mae ym mhobman arall. Fel arall, fuasai gennyf i ddim gwirionedd i’w adrodd.
Yn anffodus, mae hiliaeth yn parhau o hyd, ac felly mae hi wedi bod ers pan roeddwn i’n blentyn. A dweud y gwir, yn y gymdeithas roedden ni’n byw ynddi, roedd yn haws i mi ragori drwy gwtogi fy enw. Dechreuodd yr hiliaeth pan roeddwn i’n ifanc iawn, ond wyddwn i ddim mai hiliaeth oedd e. Ac un profiad bythgofiadwy oedd pen roeddwn i’n ddeuddeg oed, ar fws ysgol ac fe wnaeth dwy fenyw wyn ymosod arnaf i a dywedwyd wrthyf am symud i gefn y bws. Yn anffodus, mae llawer o ddigwyddiadau eraill wedi bod, yn enwedig ers tua wyth blynedd yn ôl pan benderfynais wisgo fy hijab. Mae pobl wedi taflu coffi poeth drosof i, mae pobl wedi tynnu ar fy sgarff, rwyf wedi cael camdriniaeth hiliol, mae pobl yn taflu pethau at fy nghar.
Bod yn gynghreiriad yw bod yn wrth-hiliol. Mae’n golygu dweud na. Na i ficro-ymosodiadau, na i sylwebaeth ddibwys, na i wneud sylw didaro am hijab rywun neu unrhyw ran o’u gwisg, yn enwedig os yw’n seiliedig ar eu lliw, ar eu croen, ar eu hethnigrwydd. I fod yn gynghreiriad, rydych yn sefyll dros ein hachos, ac rydych chi’n gwneud hynny gyda phŵer. A pheidiwch â bod ofn y byddwch yn cael eich herio oherwydd nid yw’r system ei hun wedi’i llunio i wneud y newidiadau a chynnal y newidiadau’r ydyn ni’n gofyn amdanynt. Ydi, mae’n anodd, ond heb gynghreiriaid gwyn yn rhan o’n hachos, allwn ni ddim gwneud y newidiadau hynny. Ac felly, mae’n hynod o bwysig eich bod, os ydych chi’n deall beth yw braint y gwyn, eich bod yn gallu deall sut a pham rydych chi’n ased i’n helpu ni wneud y newidiadau hyn heddiw.
I’r menywod sy’n edrych fel fi, y menywod sy’n edrych fel fy chwaer? Clyw, rwyt ti’n frenhines yn barod. Dwyt ti ddim yn dod yn frenhines. Ti’n cael dy eni’n frenhines. Rydyn ni’n cael ein geni gyda thafod. Mae gennym ni lais, ond llais y mae cymdeithas ein dysgu na ddylai menywod gerdded fel hyn. Ni ddylai menywod siarad fel hyn. Ni ddylai menywod ymddwyn fel hyn. Wel, gadewch i mi eich addysgu. Heddiw, rwy’n fenyw. Cefais fy ngeni yn fenyw. Rwy’n arddel hunaniaeth menyw, ac felly mae popeth rwy’n ei wneud yn rhodd gan Dduw i mi fel menyw ei gynrychioli. Fe wna i’ch cynghori i rymuso eich hun i siarad eich gwirionedd. Ond gofynnaf ichi oll gofio un peth bob tro’r ydych yn siarad, gwnewch yn siŵr bod pob gair a ddwedwch yn wirionedd, oherwydd bydd y gwir bob amser yn drech. Ni ellir gwadu’r gwir. Gellir cwestiynu’r gwir, ond bydd gennych ateb bob amser. Fe wna i’ch grymuso i siarad, ac fe ddwedaf i wrthych am siarad eich gwirionedd bob amser. Oherwydd dim ond pan fydd y byd yn clywed y gwirionedd y gellir delio â’r anghyfiawnderau hyn. Oherwydd pan rwyf i’n clywed y gwir, gallaf wedyn ei gyflwyno i’r bobl hynny sy’n meddu ar y pŵer a’r rheolaeth, ac wedyn gallwn geisio diddymu [y drwg].
Dim cyfiawnder, dim heddwch.