Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn symbol sydd, fel y gwyddom oll, yn deillio o farwolaeth George Floyd yn America a’r geiriau ‘I can’t breathe’ yw’r unig beth yr oedden ni’n gallu ei glywed. Wrth glywed BLM neu Mae Bywydau Du o Bwys, fe allwch chi glywed y llais hwnnw’n atseinio o hyd yn y cefndir, yn alwad inni ddeffro. Mae’n alwad inni oll ddeffro a chodi’r materion y mae cymunedau Du yn eu hwynebu yn eu cymunedau a’r hiliaeth systematig sy’n dal i fodoli hyd heddiw. Mae yna lawer o achlysuron gyda’r problemau yn yr ardal hon sydd wedi digwydd o fewn cymunedau Du, er enghraifft, yn enwedig mewn dinasoedd fel Caerdydd, gyda’r heddlu. Yn ddiweddar fe gawsom ni sefyllfa fan hyn yn Aberpennar gyda Chris Kapessa a’r ffordd y cafodd ei achos ef ei drin gan yr heddlu. Mae’n ein hatgoffa bod yr hiliaeth yma bob amser. Wnaeth e erioed ddiflannu’n gyfan gwbl.
O weld yr hyn sy’n digwydd yn America, allech chi ddim jyst eistedd yn llonydd a gwneud dim. Oherwydd natur fy ngwaith yn wleidyddol a hefyd natur fy ngwaith personol fel dyn busnes, roedd yn anodd iawn, yn amlwg, i fynd fy hun i Sgwâr Aberdeen ble’r oedd Martha wedi trefnu’r brotest BLM. Felly, fe wnes i arwydd a mynd â’r brotest o ddrws ffrynt fy nhŷ i’r cyfryngau cymdeithasol, gan ei fod, eto, dyna blatfform ble cawson ni ymateb da iawn ac fe gawson ni lawer o gefnogaeth drwy hynny hefyd. Yn fy 28 blynedd yn y cwm hwn, rwyf wedi gweithio gyda chymunedau drwy’r amser gan geisio cael pobl i fod yn rhan o’n cymunedau ac roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn un o’r tri pherson a sefydlodd y mosg yn Aberdâr. Fel gwleidydd, rwy’n ymdrechu dros leiafrifoedd ethnig iddynt gael llais yn y cyngor a ledled Cymru.
Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys – waeth pa ran o’r byd rydych ynddo, os yw’n effeithio ar un person mewn lleoliad arbennig, mae’n cael effaith ledled y byd – mae’n alwad i gyd-sefyll â phawb i alw am ddiwedd ar hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
Does yna ddim cymaint â hynny wedi bod, oherwydd rydyn ni wedi ceisio integreiddio yn y gymuned ac felly rydyn ni’n teimlo nad oes unrhyw wahaniaeth rhyngom ni a’r gymuned, er bod y mwyafrif yn wyn. Mae yna achlysuron wedi bod o gael ein camgymryd am rywun o Bacistan ac maen nhw’n cyfeirio atom gydag enwau Paki, problemau gyda’r heddlu o ran rhagfarn wrth ymdrin â phethau, ond yn y pen draw, o ddal i wthio a gofyn am eich hawliau, rydych chi’n cael eich hawliau yn y diwedd. Peidiwch ag eistedd yn ôl a jyst derbyn pethau fel ag y maen nhw.
Y cyngor fuaswn i’n ei roi i’r genhedlaeth iau yw cymrwch ran. Peidiwch â bod ofn, peidiwch â dychryn. Os oes gennych chi’r rhinweddau, fe allwch chi greu newid. Ewch mas yna, cymrwch ran, naill ai’n wleidyddol neu yn y gymuned, neu addysgu pobl mewn unrhyw ffordd. Fe allwch chi jyst mynd mas yna a bod yn rhan o’r mudiad. Os ydyn ni am newid y ffordd mae pethau, mae’n rhaid i ni jyst codi ar ein traed a rhoi cynnig arni. Peidiwch ag eistedd yn ôl neu beth bynnag, a peidiwch â gadael i unrhyw beth eich dal. Ac fe ddwedwn i pob lwc i chi ar newid eich dyfodol.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.