Fel Cynghreiriad, rwy’n credu ei bod yn bwysig i mi ddefnyddio fy safle fel person gwyn breintiedig, rhywun na fu erioed yn rhaid imi brofi unrhyw fath o wahaniaethu hiliol yn fy mywyd.
Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn bwysig, ac yn enwedig yn yr ardal dw i’n dod ohoni, fe welwch lawer o bobl yn dweud bod “pob bywyd o bwys” oherwydd mae’r Cymoedd yn ardal wyn yn bennaf, ac efallai nad yw pobl wedi’u haddysgu ar wahaniaethu hiliol a hiliaeth, felly maen nhw’n meddwl mai ymosodiad arnyn nhw yw Mae Bywydau Du o Bwys, ond nid felly mae hi.
Fe helpais i drefnu a hwyluso’r brotest Mae Bywydau Du o Bwys yma gyda fy nghyd-drefnydd, Chloe Cooper, yn dilyn marwolaeth George Floyd. Fe wnaethom ni brotestio drwy osod placardiau y tu allan i siop yn Aberdâr, fe gafodd sylw ar y cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau newyddion, roedd yr adborth yn ddychrynllyd gan fod pobl yn honni nad yw hiliaeth yn bodoli yng Nghymru, sy’n hurt i mi oherwydd mae’n dangos lefel yr anwybodaeth. Fe wnes i benderfynu wedyn bod angen gwneud rhywbeth yn ei gylch, mae angen i bobl glywed am y bobl Ddu sy’n marw yma yng Nghymru, yn enwedig pobl fel Christopher Kapessa a fu farw yn Aberpennar.
Y brotest ym Merthyr yw’r brotest gyntaf i mi ei threfnu, ond rwyf wedi bod mewn gwahanol brotestiadau o’r blaen, er mai’r un BLM oedd y mwyaf imi fod ynddi erioed.
Gŵyl gerddoriaeth yw Merthyr Rising sy’n enwog am gynnal llawer o brotestiadau dros y blynyddoedd, fel y brotest dros Annibyniaeth i Gymru gan Yes Cymru. Felly, roedd yn teimlo’n addas inni gynnal y brotest mewn man sy’n adnabyddus am fynd yn groes i’r graen a sefyll dros yr hyn sy’n iawn.
Roedd y sgwâr yn llawn ar ddiwrnod y brotest, a doedden ni ddim wedi disgwyl hynny o gwbl. Roedd yno bobl a ddaeth o Gaerdydd, Aberdâr, Merthyr, Rhondda, i ddangos eu cydsafiad â’r mudiad ac roedd yn anhygoel, yn enwedig gweld yr effaith ar y Cymoedd, lle nad yw pobl wedi’u haddysgu am hiliaeth.
Bydd Cymru wrth-hiliol yn wlad lle caiff pobl Ddu gerdded i lawr y stryd heb ofni cael eu gwaeddi arnynt, eu syllu arnynt oherwydd lliw eu croen, lle gallant deimlo’n ddiogel yn nwylo’r heddlu. Mae pobl Ddu yn marw o drais gan yr heddlu drwy’r amser yng Nghymru, ac rwyf am i bobl ddeall hynny; oherwydd mae’n ymddangos bod pobl yn meddwl y bydd yr heddlu yn eich gwarchod, ond nid felly mae hi.
Mae’r heddlu’n hiliol ac mae pobl yn marw drwy’r amser. Mae Cymru Wrth-hiliol yn wlad lle mae pobl Ddu yn cael yr un cyfleoedd â phobl wyn, lle maen nhw’n gallu cael swyddi, darganfod pwy ydyn nhw a jyst bodoli heb unrhyw fath o broblemau, ond yn anffodus, nid felly mae pethau ar y funud. Gobeithio bydd cenedlaethau’r dyfodol yn dysgu am y mudiad hwn ac yn deall sut roedd pethau i bobl Dduon yng Nghymru.
Mae’n hurt meddwl mai mudiad Americanaidd yw Mae Bywydau Du o Bwys, oherwydd mae hi’n amhosib i un wlad fod yn hiliol a’r gweddill fod wedi’u heithrio o hynny. Mae bywydau pobl Ddu o bwys ym mhobman yn y byd, mae triniaeth frwnt gan yr heddlu’n bodoli ym mhobman ac felly hefyd hiliaeth. Mae angen inni frwydro nes gall pobl Ddu fyw mewn byd lle cânt eu trin yn deg a byw yn rhydd heb gerdded lawr y stryd mewn ofn.
Mae hiliaeth yn bodoli yng Nghymru, mae e ar garreg eich drws, mae e ym mhobman. Felly, mae angen i’r bobl sy’n meddwl mai jyst rhywbeth Americanaidd yw Mae Bywydau Du o Bwys wneud eu gwaith ymchwil.