Cyd-ddigwyddiad pur oedd e, gan ein bod yn y cyfnod clo doedden ni ddim yn gallu teithio, er bod protestio’n digwydd yng Nghaerdydd. Fe benderfynais i roi neges allan ar Instagram yn gwahodd unrhyw un a fyddai’n fodlon dod i ddangos cefnogaeth yn y fan a’r lle i gwrdd y tu fas i’r llyfrgell a sefyll mewn undod. Roeddwn i newydd droi’n 18 ar y pryd a doeddwn i ddim yn disgwyl i fy nghyfoedion droi lan. Gwyddwn fod llawer o fy ffrindiau’n ymddiddori mewn gweithredu cymdeithasol, ond daeth pobl o bob oedran i’r brotest, tua 200 o bobl, ac roedd hynny’n galonogol. Ar ôl hynny, fe wnes i lawer o waith trefnu gyda help pobl eraill yn y gymuned yn cynnwys ein Haelod Seneddol lleol a’r llywodraeth.
Fel cynghreiriad gwyn yn gwylio fideo George Floyd, roedd yn ddychrynllyd ac yn erchyll, fe wnaeth imi fyfyrio wrth imi wylio gwahanol bobl Ddu yn egluro eu profiadau personol. Cyn y mudiad BLM, roeddwn i’n meddwl mod i’n gwybod yr hyn roedd angen ei wybod fel cynghreiriad gwyn, ond fe sylweddolais y bydd rhywbeth i’w ddysgu bob amser ac na fydda i byth yn gallu amgyffred hiliaeth yn llawn.
Pobl wyn yw’r rhai sy’n cynnal goruchafiaeth y gwyn ac yn cyflawni hiliaeth. Felly, fe wnaethom ni safiad oherwydd mai ni yw’r rhai a all newid pethau. Wedi’r cwbl, ni yw’r gormeswyr yn y gymdeithas hon. Rwy’n meddwl, ar yr un pryd, ei bod yn bwysig hyrwyddo lleisiau pobl Ddu, yn hytrach na siarad ar eu rhan, ac fe gafodd hynny ei ategu yn y ffordd y gwnaethom ni drefnu ein protestiadau. Doedd neb yn teimlo’r angen i sefyll a siarad ar ran pobl o liw oherwydd does dim modd i ni fyth ddeall y lefel hwnnw o ddealltwriaeth.
Safbwynt anwybodus fyddai credu mai mudiad Americanaidd yw BLM ac nad oes mo’i angen yng Nghymru. Yn ddiweddar, bu digwyddiad draw yn Aberpennar, pan foddodd bachgen ifanc Du mewn afon ac roedd nifer o blant eraill gwyn yno, ond wnaethon nhw ddim wynebu unrhyw ganlyniadau am hynny.
Rwy’n credu bod hwnnw jyst yn enghraifft o sut mae hiliaeth systemig yn amlygu ei hun ym mhobman, hyd yn oed os nad yw pobl yn sylwi arno.
Yn y Cymoedd, mae’n hawdd iawn i bobl wyn edrych i ffwrdd oherwydd dydyn ni ddim yn ei wynebu cymaint. Mewn cymuned o bobl wyn, sy’n ymddangos mor dawel, mae’n hawdd iawn smalio nad yw’n bodoli, a thrwy wneud hynny, rydyn ni’n cynnal y system o oruchafiaeth y gwyn oherwydd os nad ydyn ni wrthi’n weithredol yn gwneud safiad, yna rydyn ni wrthi’n weithredol yn elwa ohono.
Rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn protestio erioed. Chwe mis oed oeddwn i yn fy mhrotest gyntaf, gyda fy rhieni. Maen nhw wastad wedi fy annog i fod yn rhan o weithredu cymdeithasol. Er mai drwy ffeministiaeth yn bennaf oedd fy llwybr tuag at weithredu, arweiniodd at faterion eraill ac fe ddysgais i am ffeministiaeth croestoriadol, ac fe ddois i delerau gyda fy mraint i fel menyw wen, sut mae gwahanol hunaniaethau’n rhyngblethu â’i gilydd, ac mor bwysig yw hi ein bod yn cydnabod y croestoriadau gwahanol hynny, yn enwedig mewn ardaloedd fel hon lle mae mwyafrif y boblogaeth yn wyn.
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu, mae’n offeryn pwerus sy’n ei gwneud yn hawdd rhannu’r neges am brotestio. Mae hi’r un mor bwysig gwrando ar bobl yn eich cymuned a herio eich disgwyliadau. Mae yna gymaint o ystrydebau am sut mae pobl yn teimlo ynglŷn â hiliaeth yn y Cymoedd. Roeddwn i wedi fy syfrdanu’n llwyr gweld cymaint o bobl ddaeth a sefyll dros hawliau pobl Ddu. Fe wnaeth hynny herio fy nghanfyddiad o sut mae pobl a beth maen nhw’n ei gredu. Rwy’n credu bod hynny’n gam pwysig mewn dod yn well fel rhywun sy’n gweithredu.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.