BLM CODI CYMRU logo web

Lisinayte Gomes Lopes

Protest location

BLM Wrecsam

Share

Mae’r mudiad BLM yn golygu lot i mi. Rydw i eisiau i ni gael ein cydnabod, ein cynnwys, a’n parchu yn ein cymuned, dim ots pa liw ein croen neu wlad enedigol.
Nid mudiad Americanaidd yn unig mo Mae Bywydau Du o Bwys, mae’n fyd-eang: mae hiliaeth yn bodoli yn fyd-eang. Mae’n frwydr fawr y mae’n rhaid inni ei brwydro’n ddyddiol a’i chefnogi ym mhob ffordd bosib. Mae angen inni gydsefyll a chael clywed a chydnabod ein lleisiau.

Pan glywais fod ein chwaer Iolanda am drefnu’r brotest, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi fod yn rhan o’r peth oherwydd ei fod yn fater sy’n peri pryder nid yn unig i mi ond fy holl frodyr a chwiorydd sydd wedi dioddef gwahaniaethu. . Gwelais y brotest fel cyfle i ni ddod ynghyd mewn undod i godi llais yn erbyn hiliaeth ac ymladd dros ein hawliau.
Roedd gweld George Floyd yn cael ei drin fel y cafodd yn boenus ac roedd yn alwad i ni fod mwy i’w wneud. Wrth gwrs, mae yna ffordd bell o’n blaenau ond rydym wedi cychwyn ar y daith o gael yr hyn y mae ei eisiau arnom, sef diwedd ar hiliaeth a gwahaniaethu.

Cefais brofiad a oedd yn wirioneddol drist i mi ac roedd yn ystod y dyddiau ar ôl Brexit. Es i’r ystafell ffitrwydd yn Wrecsam i wneud fy ymarfer corff arferol, a thra’r oeddwn i wrthi, clywais ferch Brydeinig yn dweud wrth ei ffrindiau ‘O, maen nhw’n dal o gwmpas’. Cefais sioc oherwydd eu bod wedi meddwl y byddai pobl Ddu yn mynd yn ôl i’w gwlad ar ôl Brexit a doedden nhw ddim yn disgwyl fy ngweld i a’r ddynes arall yno.

Dw i wastad wedi bod yn berson sydd eisiau byw mewn cymdeithas deg a dwi’n cofio pan o’n i ym Mhortiwgal, ymunais â llawer o brotestio gan fod gwahaniaethu a hiliaeth yn gyffredin iawn yno hefyd.

Mae’n bwysig iddyn nhw wybod bod angen i ni ymladd bob dydd i fod yn rhan o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi a chael parch ynddi. Felly, fe ddwedwn i, daliwch ati i frwydro er mwyn y genhedlaeth nesaf, a’r un wedyn. Peidiwch â gadael i neb eich cam-drin ac os byddwch yn profi hiliaeth, gwahaniaethu, neu gamdriniaeth, peidiwch â chadw’n dawel, siaradwch amdano ac ewch i gael y gefnogaeth angenrheidiol.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

Iolanda Banu Viegas

Omo Idegun

Francis Ndubuoke

Rebecca Wide

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content