I mi, mae bod yn gynghreiriad yn golygu fy mod yn gwrando ar leisiau Du, ac rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud popeth a allaf i wella pwy ydw i bob dydd fel person gwyn. Mae’n golygu gwneud pethau fel y protestiadau hyn a bod yn rhywun sy’n gallu hybu lleisiau Du, ac nid siarad drostynt.
Fe wnaeth lladdedigaeth George Floyd imi deimlo’n ddig, mewn trallod, ac wedi ypsetio. Roedd e jyst yn gymaint o sioc ac yn gwbl ofnadwy. Ac roeddwn i’n gofyn i mi fy hun drosodd a throsodd, “sut allai unrhyw un wneud hynny a thrin rhywun arall fel yna?” A dyma feddwl os oeddwn i’n teimlo fel hyn fel person gwyn, allwn i ddim dychmygu sut roedd fy ffrindiau Du a phobl Ddu, a phobl o liw yn gyffredinol yn teimlo am hyn. Roedd e’n erchyll.
Rwy’n meddwl fod marwolaeth George Floyd yn sicr wedi sbarduno rhywbeth ynof i. Yn amlwg, roeddwn i’n ceisio bod yn gynghreiriad hyn hynny, yn un gweithgar, ond yn enwedig yn sgil y digwyddiad hwnnw, cefais fy sbarduno i ymuno â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Rwy’n credu ei fod, i mi, yn gam i’r cyfeiriad cywir ac yn arwydd bod angen i mi fod yn gwneud mwy fel person gwyn i frwydro hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
Felly, fe wnes i a dwy ffrind (rydyn ni’n tair yn wyn), weld y protestio’n digwydd yn America a hefyd mewn dinasoedd yn y DU, a dyma ni’n meddwl y buasem ni’n hoffi mynd i brotest a dangos ein cefnogaeth. Ond, oherwydd y pandemig Coronafeirws, doedden ni ddim eisiau teithio, doedden ni ddim eisiau gwneud i bobl fod yn anniogel. Felly dyma ni’n meddwl, beth am gynnal ein protest ein hunain i bobl fynd iddi a gwahodd pobl Ddu leol i siarad yn y digwyddiad? Felly, gallwn wneud yn siŵr ei fod yn gymharol addas i sefyllfa COVID a does dim angen i bobl deithio ymhell, ond gallwn hybu lleisiau pobl Ddu a chymryd rhan a dangos ein cefnogaeth i’r mudiad.
Fe wnaethom roi cynnig arni a gweld a fyddai diddordeb gan bobl, ac roedd yr ymateb yn gadarnhaol dros ben. Ac yna dyma ni’n meddwl, reit, amdani. Fe wnaethom ni gysylltu gyda heddlu’r ardal i ddweud, dyma ydyn ni’n bwriadu ei wneud. Jyst i adael i chi wybod; fe wnaethom ni greu tudalen Facebook, ei hyrwyddo ar Instagram ac ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaethom ni ffrydio’r digwyddiad yn fyw ac yn y digwyddiad, fe wnaethom rannu taflenni ynghylch Mae Bywydau Du o Bwys a’i gysylltiad â’r DU a Chymru. Ac yna wedyn, fe roesom arwyddion i fyny, rhai’r oedd gan bobl yn y digwyddiad, ac fe wnaeth y rheiny aros i fyny am gyfnod go hir.
Roedd diwrnod y brotest yn ddiwrnod hyfryd. Roedd y tywydd yn ddelfrydol. Rwy’n cofio teimlo’n eithaf nerfus, er mai’r cwbl oeddwn i’n ei wneud oedd ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn dilyn Rheolau COVID a dweud, dyma pwy sy’n gwneud anerchiad nesaf. Ond roedd yn deimlad anhygoel. oeddwn i wir yn teimlo’r naws o gymuned ynghyd, yn gweld yr holl bobl yn mynychu, yn enwedig mewn tref sydd â phoblogaeth wen yn bennaf. Roedd yn dda iawn gweld bod gan y Fenni’r gefnogaeth honno i Mae Bywydau Du o Bwys, ac mor awyddus oedd pobl i wrando a hefyd mor awyddus oedd ein siaradwyr i siarad. Ac roedden nhw’n anhygoel, yr holl waith a wnaethon nhw a’r pethau a ddwedon nhw. Roedd e mor rymusol. Waw.
Dyma’r tro cyntaf i mi drefnu protest. Roeddwn wedi bod i rai yn y gorffennol, fues i yn rhai Gwrthryfel Difodiant a rhai ar faterion menywod, ond dyma’r tro cyntaf i mi feddwl, d’wyf i ddim yn gweld neb arall yn gwneud hyn, felly beth am i mi wneud?
O ran y pandemig, fe ddwedwn i fy mod yn deall pryderon y bobl a fu’n cwyno. Roedd hi’n gyfnod COVID-19. Ond rwy’n credu fod cyfle iddo jyst digwydd, cyfle nad oeddem ni’n gallu ei golli. Ac rwy’n credu, mewn ffordd, na fyddai’r brotest Mae Bywydau Du o Bwys wedi cael y fath gyrhaeddiad oni bai am COVID-19, oherwydd roedd gan bobl yr amser i addysgu eu hunain, ac roedd ganddyn nhw amser i feddwl am y pethau hyn. A dyma oedd y mudiad a welsom ni. Doedden ni ddim yn gallu jyst gadael i’r peth fynd. A phan wnaethom ni gynnal y brotest, fe wnaethom ni’n siŵr ein bod yn sicrhau bod pawb yn cadw pellter cymdeithasol. Fe wnaethom ni rannu masgiau a glanweithydd dwylo wrth y giatiau. O ran pawb a ddaeth, yn amlwg eu dewis unigol nhw oedd dod. Felly, do, fe wnaethom ni popeth mor ddiogel â phosib. Ac rwy’n credu fy mod i’n deall pryderon pobl, ond roedd yn foment mor fawr, doedden ni ddim yn gallu colli’r cyfle.
Roedd COVID yn broblem, ond mae hiliaeth yn broblem hefyd ac yn broblem barhaus. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni fantoli’r ddau beth hynny.
Rwy’n credu bod unrhyw symudiad tuag at wrth-hiliaeth yn beth da, ac rwy’n wir obeithio y gallwn fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. P’un ai yw hynny’n rhy optimistaidd, wn i ddim. Ond rwy’n credu y byddai Cymru wrth-hiliol yn un nad yw’n caniatáu hiliaeth ar unrhyw ffurf o gwbl, ac yn un sy’n dysgu pobl am hiliaeth, sy’n addysgu am hiliaeth, ac sy’n gwneud yn siŵr bod hiliaeth ar unrhyw ffurf yn wrthun, boed yn hiliaeth agored neu’n ficro-ymosodiadau. Rwy’n credu y bydd Cymru wrth-hiliol yn Gymru sy’n diddymu hiliaeth.
Fe ddwedwn i fod Mae Bywydau Du o Bwys yn berthnasol iawn yng Nghymru. Dim ots os yw, efallai, yn fwy cyffredin yn America, mae yna broblem anferthol yn y wlad hon hefyd. Hynny yw, roedd achos o’r bachgen ifanc a foddodd a doedd dim ymchwiliad digonol gan yr heddlu ar y mater. Roedd yna’r achos hwnnw gyda’r dyn Somali ifanc, rwy’n credu, a ddaeth yn ôl o ddalfa’r heddlu yn wael iawn a bu farw’n nes ymlaen. Mae’r achosion hyn a welwn ni’n dal i ddigwydd, ac er nad ydyn nhw wedi cael y sylw mae rhai o’r achosion yn America wedi’i gael, maen nhw’n bodoli, maen nhw yma, ac mae angen inni dalu sylw iddyn nhw.
Fy neges i fyddai ichi bob amser sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo a chwestiynu eich credoau a’ch rhagfarnau bob amser, a gwrando ar y bobl o’ch cwmpas chi a pheidiwch byth bod ofn sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu sy’n iawn.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.