Fe’m ganed yn 1993 ac roedd rhyfel Iraq yn gefndir i flynyddoedd fy arddegau. Ac roedd pobl eraill yn meddwl fod fy enw’n gysylltiedig â Saddam Hussein, er nad ydi o. Roedd hyn yn gwneud pobl yn hiliol iawn, yn fy ngalw yn derfysgwr, a chyfeirio ataf fel ‘brownie’. Ie. Ond am wn i gall bobl gyfrannu ar bropaganda rhyfel a gwneud i bobl ddechrau cwestiynu pobl eraill. Dyna oedd fy mhrofiad i’n tyfu i fyny. Rydych chi’n meddwl tybed beth allwch chi ei wneud, ond y flaenoriaeth bennaf nawr yw brwydro yn ei erbyn.
Ynghylch lladdedigaeth George Floyd, rwy’n ei chael yn anodd gwylio’r fideos hynny a d’wyf i dal heb ei wylio i gyd, a dweud y gwir. Roedd yr hyn a ddigwyddodd jyst yn ganlyniad rhesymegol yn un o’r gwledydd mwyaf hiliol, un o ranbarthau mwyaf hiliol y byd i gyd, sef Unol Daleithiau America, a aned ar gefn caethwasiaeth, a aned ar gefn ecsploetio bywydau Du, gan arwain at farwolaeth ddi-baid pobl Ddu.
Gadewch inni fod yn glir, wnaeth George Floyd ddim marw dros hyn. Roedd ganddo fywyd y dylai fod yn ei fyw, ac fe ddylai fod wedi cael byw bywyd hapus ac iach. Ond mae’r system hon jyst yn cymryd y pethau hynny oddi ar bobl Ddu ddiniwed, a’r unig beth y gallwn ei wneud yw ceisio ymladd dros eu hetifeddiaeth, ond gan ddeall fod eu bywydau yn llawer mwy ha hynny, a chafodd y bywyd hwnnw ei rwygo o’u dwylo.
Rwy’n credu, gydag amgylchiadau’r anghyfiawnderau rydyn ni’n eu gweld yma yng Nghymru mewn achosion fel Christopher Kapessa a marwolaeth sydyn Mouayed Bashir, mae’n dangos inni’n glir iawn faint o gynnydd rydym wedi’i wneud, fel newidiadau i’r cwricwlwm a pholisïau, mae pethau’n fwy cadarnhaol. Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw bod hiliaeth yn llawer dyfnach ac mae’n bodoli reit wrth wraidd sefydliadau ac, yn fwy na’r un arall, yn sefydliad yr heddlu. A Mahmoud yn marw ar ôl cyswllt gyda’r heddlu, Christopher Kapessa, ystyriwyd nad oedd ym mudd y cyhoedd i ymchwilio. Mae mor drist bod Siyanda yn y carchar am bedair blynedd a hanner. Ond eto, dyna felly mae’r system hon, y wlad hon drwyddi draw. A nawr mae’n rhaid inni ddal i frwydro fel rydyn ni; fe wnaeth y protestio y tu allan i orsaf yr heddlu am bedwar diwrnod yn olynol dros Mahmoud arwain at roi hysbysiadau camymddwyn i’r heddlu. Dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny wedi digwydd heb bwysau mawr gan y cyhoedd.
Mae’r wlad a’r sefydliadau heddlu, ac ati, yn dibynnu ar i ni jyst anghofio a’i weld fel rhywbeth y mae disgwyl iddo ddigwydd bron, neu rywbeth fel ‘O, Du oedden nhw, felly mae’n siŵr eu bod wedi gwneud rhywbeth o’i le’. Wel, na, mae angen ichi brofi eu bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, ac yna ei brofi eto, oherwydd nid arnom ni mai’r baich profi, ar y wlad mae hynny oherwydd ganddyn nhw mae’r pŵer. Felly, mae angen iddyn nhw brofi i ni na wnaethon nhw ddim byd o’i le. Ac os nad ydyn nhw am wneud hynny, fe ddaliwn ni ati i brotestio ac fe wnawn ni eu gorfodi i’w brofi.
Rwy’n credu mai sothach llwyr yw dweud mai cysyniad Americanaidd yw Mae Bywydau Du o Bwys. Oherwydd nid yn yr UDA yn unig mae bywydau Du o bwys. Mae bywydau Du o bwys ym mhobman. A gadewch inni fod yn glir iawn eto, ymerodraeth y DU oedd un o ecsbloetwyr mwyaf bywydau Du o amgylch y byd, yn cynnwys gwersylloedd carchar yn Kenya, diraddio a dad-ddynoli bywydau Indiaidd. Mae bara menyn y wlad hon wedi’i godi ar sylfaen o hiliaeth, ar gefnau pobl Ddu a Brown. Felly, mae’n ddatganiad gwirion oherwydd os edrychwn ni ar lle’r ydyn ni nawr, mae Mahmoud, fel y sonioch chi, wedi marw, mae Moayed wedi marw, mae Christopher Kapessa wedi marw ac all e ddim hyd yn oed cael cyfiawnder, all Siyanda ddim cael cyfiawnder, mae hi mewn cell mewn carchar. Hefyd, y Cardiff Three, un o’r anghyfiawnderau o gam-drin, twyllodrus mwyaf yn hanes y DU. A bod yn gwbl eglur, y dyn olaf i gael ei hongian oedd Hassan yng Nghaerdydd, y tu allan i garchar Caerdydd.
Felly nid mater i’r DU yn unig yw hwn, nid i’r UDA yn unig, ond un byd-eang. Mae system cyfalafiaeth yn ei chyfanrwydd, y system gyfan rydyn ni’n byw ynddi, wedi’i geni ac wedi ffynnu mewn ffordd gwbl wrthun ar draul bywydau pobl Ddu.
Mae’n ddatganiad mor syml, Mae Bywydau Du o Bwys, ond hefyd mae’n ddatganiad pwerus dros ben, oherwydd mae’r geiriau Mae Bywydau Du o Bwys mor syml, ond mae llawer o bobl nad ydynt yn credu’r geiriau hynny. Mae’r syniad hwn o Mae Pob Bywyd o Bwys yn rwtsh llwyr, mae’n un rhyfedd achos mae’n ddatganiad sy’n gwneud ichi feddwl bron, ‘sut allai neb anghytuno â hynny’? Mae’n dangos dyfnder hiliaeth yn ein cymdeithas oherwydd ei fod yn dangos fod cymaint o bobl yn anghytuno â datganiad mor sylfaenol. Ond er fy mod yn meddwl ein bod angen symud ymlaen i Mae Bywydau Du o Bwys 100%, mae angen inni symud hefyd tuag at ryddid i bobl Ddu. Ac rwy’n meddwl mai rhyddid pobl Ddu yw’r peth pwysicaf y mae angen inni ddechrau meddwl amdano. Mae bywydau Du o bwys. Ond sut ydyn ni’n mynd i ryddhau bywydau Du o gadwyni cymdeithas?
Mae gweithredu drwy brotestio’n bwerus oherwydd dyma lle mae’r gweithredu, yr amddiffyn hawliau pobl Ddu ddiniwed, pobl frown ddiniwed, yn digwydd yn yr awyr agored gan bobl. Jyst pobl yn brwydro yn erbyn y system a’r Swyddfa Gartref, yr heddlu, y sefydliadau mwyaf hiliol yn y byd i gyd, a’r hyn mae’n ei olygu jyst i fod allan yma. Mae’n gwneud i ni deimlo bod llawer o bobl yn erbyn hynny, mewn gwirionedd. Mae llawer o bobl o blaid rhyddhau bywydau pobl Ddu. Mae rhai pobl yn erbyn hiliaeth y wladwriaeth. Ac mae angen inni gofio hynny, oherwydd os na wnawn ni gofio hynny, oherwydd ein bod yn gweld cymaint o hiliaeth drwy’r amser, yr argyfwng ffoaduriaid, marwolaeth Mouayed, Mahmoud, George Floyd, gall deimlo na chawn ni byth fuddugoliaeth. Ond pan rydych chi allan yna, rydych chi’n cofio y byddwn ni yn ennill mewn gwirionedd, ac arnom ni mae’r cyfrifoldeb i wneud hynny.
Pan wnaethon ni drefnu’r gwrthdystiad mawr ar ôl George Floyd, daeth cymaint o bobl, tua 4000 dwi’n meddwl, yn amlwg roedd pandemig yn digwydd. Ac a bod yn gwbl onest gyda chi, a gadewch inni fod yn glir iawn, mae’r pandemig wedi bod yn lladd pobl Ddu a Brown yn fwy na dim arall, oherwydd mai pobl Ddu a Brown yw’r dosbarth gweithiol, ac maen nhw’n byw yn y rhannau o gymdeithas sydd ddim yn cael tâl digonol, a’r nyrsys a’r bobl sy’n gwneud y swyddi pwysicaf. Felly roedd hynny’n ddychrynllyd.
Ond fe wyddom fod yn rhaid inni wneud sŵn. Roedden ni yn yr awyr agored, roedden ni’n cadw pellter cymdeithasol, ond fe wyddom fod yn rhaid i ni wneud sŵn, oherwydd marwolaeth, ie, yn yr Unol Daleithiau, ond roedd yn ategu mor gryf â’r hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd. Er enghraifft, y Cardiff Three a phopeth rydyn ni wedi’i weld nawr ar ôl y gwrthdystiad ar ran George Floyd.
Mae’n drist dweud nad dyma’r tro cyntaf i mi brotestio, sy’n dangos ichi mor hir mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen. Ac rwyf wedi bod yn gwneud hyn am gyfnod go hir, ac yn ei wneud cyn i’r mudiad BLM godi yn 2020. Ond eto, pan fo pethau fel yna’n digwydd ac mae dicter yn ffrwydro fel yna, mae’n rhaid ichi gymryd y cam a gweithredu. Does dim amser i’w wastraffu. Ac mae hiliaeth yn rhywbeth sydd wedi fframio fy mywyd, nid fy mywyd i’n unig, ond bywydau fy arwyr. Malcolm X, Kwame Ture, y Black Panthers, a’r British Black Panthers hefyd. Y bobl hynny sydd wedi fframio sut rwy’n fy ngweld fy hun a sut rwy’n gweld y byd. Felly, mae wedi bod yn rhan o bopeth. Y ffordd rwy’n deall y byd, y ffordd rwy’n edrych ar bethau, y ffordd rwy’n fy ngweld fy hun o fewn y byd hwnnw. Ac yn drist iawn, eto, nid dyma’r tro cyntaf, ac nid dyma’r tro olaf, rwy’n siŵr.
Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod gennym arweinydd sy’n fodlon dweud hynny. Ond eto, fe ddwedwn i bod angen gweithredoedd, nid geiriau. Fe ddwedwn i, mewn cymdeithas neu wlad ble mae dau fywyd wedi’u colli ar ôl cyswllt â’r heddlu, yna beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd? Beth mae gwrth-hiliol yn ei olygu pan rydyn ni’n edrych ar ddynion Du sy’n farw ar ôl cyswllt â’r heddlu? Felly, rwyf am weld mwy o bwysau ar yr heddlu ac ar y sefydliadau sydd wedi bod yn achosi’r problemau. Rwyf am weld mwy o bwysau ar y Swyddfa Gartref ac ar holl elfennau cymdeithas sydd wedi bod yn achosi trafferth ymysg cymunedau Du a Brown. A sut ydyn ni’n mynd i gyflawni hynny? Unwaith eto, rwy’n credu bod angen mwy na jyst geiriau arnom ni. Mae angen gweithredu go iawn. Ac nid mater syml fydd y gweithredu y mae ei angen i ddatrys yr ail elfen o’r uchod.
Mae’n mynd i fod yn siarad am ddad-ariannu’r heddlu. Mae’n mynd i fod yn siarad am ddyrannu adnoddau i gymunedau Du er mwyn iddyn nhw gael byw’n ddiogel a pheidio poeni am geisio dod o hyd i’w pryd bwyd nesaf, gan orfod troi i droseddu’n aml oherwydd bod cymdeithas yn gwneud bywyd mor fain, does dim dewis gennych. Rydyn ni’n siarad am symud oddi wrth ddad-ddynoli bywydau Du a Brown ym mhob rhan o gymdeithas. Rydyn ni’n siarad am ariannu pobl Ddu i gynnal prosiectau Du, prosiectau dan arweiniad pobl Ddu. Rydyn ni’n siarad am symud oddi wrth garcharu a’r system carchar a’r diwydiant carchar. Rydyn ni’n siarad am gwestiynau anferthol. Rydyn ni’n siarad am bwysau ar lywodraeth y DU i roi’r gorau i ariannu rhyfeloedd sy’n dwyn bywydau pobl Ddu a Brown o amgylch y byd. Rydyn ni’n siarad am bethau enfawr. A nes bydd y pethau hynny’n digwydd, nes bydd pob un o fy mrodyr a chwiorydd yn rhydd o amgylch y byd, yna d’wyf i ddim yn ystyried fy hun yn rhydd.
Hyd yn oed os oes newid bach iawn yn fy lles i fy hun yn y wlad hon, oni bai bod rhywbeth yn newid yn fyd-eang a newidiadau o ddifrif yn digwydd yn y wlad hon, yna rydyn ni mewn cadwyni cymaint ag y buom erioed.
Yn fy marn i, does dim fformiwla hud. Rydych chi jyst yn cymryd rhan. Rydych chi’n angerddol dros bethau. Darllenwch am ryddid a’r bobl a ddaeth o’n blaenau ni, oherwydd rydyn ni’n sefyll ar ysgwyddau cewri. Deallwn fod hyn yn rhywbeth y mae pobl wedi bod yn brwydro drosto ers amser hir, ac efallai na welwch chi’r canlyniadau erbyn diwedd eich oes. Ond mae hyn oll yn rhan o’r frwydr. Oherwydd nid yw’n anodd dod o hyd i grwpiau lleol i gymryd rhan mewn gweithredu. Fe ddowch chi o hyd i gymuned sy’n eich derbyn. Fe ddowch o hyd i bobl sydd eisiau cymdeithas ble caiff eich bywyd ei werthfawrogi, pwy bynnag ydych chi, p’un ai’ch bod yn anabl, yn drawsryweddol, ble mae pobl eich eisiau ac yn eich gwerthfawrogi. Ac fe ddowch o hyd i fyd lle mae’r hyn rydyn ni’n brwydro drosto yn dra gwahanol i’r hyn y mae gennym i’w gynnig neu’r hyn maen nhw’n ei gynnig i ni.
Felly, cymrwch ran. Does dim ots beth yw eich gwaith, beth rydych chi’n ei wneud neu eich lefel o addysg. Oherwydd, cofiwch, aeth pobl fel Malcolm X erioed i’r ysgol. Does dim ots beth maen nhw’n ei ddweud. Mae’n rhaid i chi wneud yn unol â’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Mae’n rhaid ichi oresgyn tlodi a hiliaeth oherwydd mae’r cyfan yn cyfyngu ar eich gallu i wneud y pethau y mae gennych chi’r potensial i’w wneud. Felly cofiwch hynny. Cymrwch ran, gweithredwch, a brwydro’r frwydr gyfiawn.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.