Rwyf wedi bod yn gerflunydd ers blynyddoedd lawer, ond yn eironig, paentio astudiais i yn y brifysgol, ond wedi imi orffen, roeddwn yn byw mewn tref o’r enw Nsukka, tref prifysgol, ac fe ddatblygais bleser mawr mewn cerflunio ac rwyf wedi bod yn creu cerfluniau byth ers hynny. Mae fy ngherflunwaith i’n wahanol i rai eraill, pan fo’r artist yn cael darn anferth o bren neu garreg ac yn ei dorri i lawr i ffurfio rhywbeth; rydw i’n gweithio o ddarnau llai. Mae tua 500 o ddarnau i’r cerflunwaith hwn, ac mae’n fanwl iawn pan fyddwch yn sefyll o’i flaen yn edrych arno. Yna, dechreuodd myfyrwyr y Brifysgol ddod i fy ngweithdy i ddysgu sut i wneud y math hwn o gelf. Rwyf hefyd wedi creu darnau i bobl fel Nelson Mandela, y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana ac amrywiol arlywyddion.
Mae fy ngherflun yn cynnwys pob math o bren wedi’i roi at ei gilydd a’i arwyddocâd yw grŵp mawr o bobl yn dod ynghyd fel un, mewn undod mae nerth; maen nhw’n gryfach wrth glymu at ei gilydd, ac felly’n gallu amddiffyn eu hunain oddi wrth y gelyn yn well na phe bydden nhw wedi’u gwahanu i’r darnau mân gwreiddiol, oherwydd mae’r darnau mân hynny yn ddiystyr ar eu pennau eu hunain. I mi, mae’r dwrn yn arwydd o herio’r bwli i roi’r gorau i’n gormesu. Defnyddiwyd y dwrn gan Jessie Owens ac Angela Davis, a hefyd Black Power, ac ers hynny mae wedi’i ddefnyddio fel arwydd o bob math o bethau y mae gwahanol bobl dan ormes nawr mewn sefyllfa y mae pobl Dduon wedi bod ynddi ers canrifoedd, mewn sefyllfa nad oedden nhw erioed yn meddwl y byddai’n digwydd iddyn nhw.
Os oes yna ddyn Du yn cerdded i lawr y stryd, a’r heddlu’n ei weld yn gwneud rhywbeth y maen nhw’n credu sy’n anghyfreithlon, a’u hymateb yw penlinio ar ei gefn, ar ei wddf, a’i ffrindiau’n gwylio, yn ddigon hir i rywun recordio’r digwyddiad ar fideo, yn ddigon hir i’r plismon fod mor gwbl ymroddedig yn yr hyn mae’n ei wneud nad yw hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn cael ei ffilmio a’i gofnodi, yna mae’r weithred hon yn dor hawliau dynol difrifol, ac mae’n adlewyrchiad o broblem sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn ac sy’n galw am sylw ar frys a newid systemig. Does neb yn cadw grym drwy gasineb am byth. Mae’r gwir bob amser yn aros, mae tegwch bob amser yn aros, hyd yn oed os yw’n cymryd canrif, mae pethau’n dod yn ôl i degwch yn y pen draw.
Rwyf wedi dod i’r wlad hon ers blynyddoedd, yn fy 20au cynnar, ac mae yna wahaniaeth cadarnhaol aruthrol wedi bod. Un o’r prif wahaniaethau yw’r ffaith bod llawer o gyfreithiau neu is-gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu. Roedd hi’n arfer bod yn norm derbyniol yn ein cymdeithas “dyw pobl Ddu ddim yn dod i’r fan yma, dyw pobl Ddu ddim yn eistedd ar y bws hwn, dyw pobl Ddu ddim yn cael mynd i’r dafarn hon, chaiff yr un person Du wneud hynny” ond dyw hynny ddim yn dderbyniol nawr.
Rwy’n credu yn natur gadarnhaol y Prif Weinidog, ond fuaswn i ddim yn rhoi dyddiad ar unrhyw ymddygiad neu weithred. Mae’n rhaid cael dogfen, mae’n rhaid ei grynhoi i gyfnod o amser a bywyd i mi allu cytuno. Fel y dwedais i, rwyf wedi gweld newid yn ein cymdeithas eisoes. Mae yna welliant cadarnhaol yn y berthynas rhwng pobl, a bydd pobl iau yn cymryd yr awenau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a dod yn fwy agored.
Dylen nhw ddod ynghyd. Jyst dod ynghyd a bod yn gryf. Peidiwch â cholli ffydd.