BLM CODI CYMRU logo web

Chris Campbell

Protest location

BLM Gwent Torfaen

Share

Mae’r atgof clir cyntaf sydd gen i o 1968, pan roeddwn i’n bump oed. Dywedwyd wrth fy siblingiaid a fi i fynd yn ôl i’n gwlad ein hunain, i fynd nôl ar y cwch banana. Fe aethom adref a dweud wrth ein mam; am ein bod yn byw mewn cul de sac, dim ond dros y ffordd oedd e. Aeth fy mam yn ôl i gefn y tŷ ac estyn ei machete. Fe wnaeth hi wynebu’r dyn gwyn a ddywedodd wrthym fynd yn ôl i’n gwlad ein hunain, gan ddweud, ‘byddai’n rhaid iti fy lladd i a fy mhlant yma heddiw cyn i mi adael y stryd hon’. Dyma fy atgof clir cyntaf o hiliaeth.
Roedd yna lawer o ddigwyddiadau hiliol, ond roedd mynd i’r ysgol uwchradd yn sioc arall i fy system. Cefais fy nghuro’n waeth, fy anwybyddu, neb yn gwrando arnaf i, a fi oedd yr unig berson ifanc Du yn fy mlwyddyn. Roeddwn yn cael fy erlid ym mhob ffordd, felly cefais gyfnod caled yn mynd drwy’r ysgol. Pan roeddwn i’n 13, fe wnes i adael yr ysgol a bu’n rhaid imi adael cartref. Flwyddyn ar ôl gadael cartref, ymosodwyd ar fy ffrind a minnau gan bum person ifanc gwyn. Roedden ni’n amddiffyn ein hunain pan gyrhaeddodd yr heddlu, ond cafodd fy ffrind a mi ein harestio. Ar ôl cael ein cadw mewn cartrefi caeedig am chwe mis, cawsom ein rhoi mewn canolfan gadw. Doedd yna ddim cyfnod prawf, neb arall yn cael eu cyhuddo, dim ond fi a fy ffrind. O’r arestiad hwnnw, cefais i, yr un oedd yn cael ei ddiraddio a’i guro, fy rhoi dan ofal sefydliadol. Roeddwn i yn y carchar yn ystod cyfnod anodd, cyfnod hiliol iawn. Fe wnaethon nhw dorri fy ngwallt cudynnog i ffwrdd, a galwyd pob dyn Du yn Sam. Roedden nhw’n ein curo gyda rhywbeth roedden nhw’n ei alw yn Mabel, sef teclyn oedd yn cynnwys rwber. Felly, rwyf wedi wynebu hiliaeth gydol fy oes. Fe allwn i ddal i drafod y miliynau o achlysuron o stopio a chwilio, roedden nhw’n arfer ei alw’n T-I-C’S, sy’n golygu ystyried yr holl adegau pan fyddai’r heddlu’n gwneud cyhuddiadau ffug amdanoch, ac roedd yn rhaid ichi dderbyn hynny wrth gael eich curo. Mi oedd gen i ffrindiau a fu farw mewn gorsafoedd heddlu, a fu farw yn y carchar. Felly, credaf fy mod yn gwybod am hiliaeth; rwyf wedi’i wynebu ar hyd fy oes.

Mae Bywydau Du o Bwys – mae’n golygu popeth i mi. Datganiad yw Mae Bywydau Du o Bwys sy’n dweud, nes bydd gwerth i fywyd pawb, gyda’r un cydraddoldeb chyfiawnder, yna does dim gwerth i fywyd neb. Ar y funud, rydyn ni’n canolbwyntio ar Mae Bywydau Du o Bwys oherwydd nid yw bywyd fy mhlant, fy ngorwyrion, fy mywyd i, hyd yn oed eich bywyd chi, ddim yn cael ei werthfawrogi fel mae bywydau gwyn neu genedlaetholdebau eraill, nid yng Nghymru’n unig, ond ledled y byd.

Cyrhaeddodd y newyddion am farwolaeth drasig, farbaraidd George Floyd bob un ohonom, ac fe effeithiodd ar bob un ohonom, nid dim ond fy nheulu i, fy wyres, fy mab, neu fy ŵyr. Dechreuodd fy wyres wneud placardiau ac roedd fy mab yn gofyn i mi, “beth ydyn ni am ei wneud?” “Ydyn ni am gefnogi?” Ac fe ddwedais i ein bod am gwrdd ag aelodau eraill y teulu, a dilyn y llwybr, ac rydym am gefnogi Mae Bywydau Du o Bwys drwy gydsafiad, drwy ddod ynghyd â’r gymuned leol, gyda phobl leol, a rhannu’r neges go iawn, dim cyfiawnder, dim heddwch.

Rwyf wedi bod yn brotestiwr ers 40 blynedd, mor bell yn ôl â’r 80au. Oherwydd y driniaeth roeddwn i a fy siblingiaid yn ei ddioddef, nid gan yr heddlu’n unig, ond gan y National Front ac o fewn cymunedau. Ar y pryd, roedden nhw’n ei alw’n ‘reiat’ neu greu terfysg. Felly, roeddwn i yn Toxteth, Brixton, Birmingham, ac yn protestio dros y ffordd roedd ein holl frodyr a chwiorydd yn cael eu trin. Fe wnaethom ymladd cystal ag y gallem ac roeddwn i’n arweinydd strategol yn yr ymdrech honno. Fe es i yn fy mlaen i weithio i Gyngor Wolverhampton fel cymodwr a datryswr, yn edrych ar swyddi, cyflogaeth, hamdden, cymuned, y pethau rydyn ni’n eu gwneud heddiw.

Fe wna i ddisgrifio cwpl o ddigwyddiadau hiliol. Rwyf wedi cael fy stopio yng Nghymru mwy na 40 o weithiau, wrth yrru ac ar droed. Yn fy nhŷ fy hun yn Tourville, o flaen fy mhlant, mae’r Heddlu wedi dod i mewn, clymu fy nwylo y tu ôl imi, yna chwistrellu chwistrell pupur arnaf i, fy nharo i’r llawr gyda’r batonau, fy arestio a fy rhoi mewn cell mewn carchar ymhell i ffwrdd, oherwydd bod fy nghymydog wedi’u ffonio a dweud eu bod wedi clywed rhyw ffrae. Wnaethon nhw erioed fy nghwestiynu i na fy mhartner ar y pryd, a dyna sut maen nhw’n ymateb fel arfer.

Fe ddwedwn hefyd, ers y Pandemig yn 2019, rwyf wedi bod yn mynd drwy achos gwahaniaethu ar sail hil ac nid yw wedi dod i ben. Mae’r achos wedi bod yn mynd yn ei flaen am 3 blynedd. Pe na fyddwn i’n gadarn yn fy nghred yn Mae Bywydau Du o Bwys ac yng nghydraddoldeb cyfiawnder sy’n sefyll dros bawb, yna buaswn wedi rhoi’r ffidil yn y to ers amser maith. Rwy’n gwybod bod y broses yn llwybr anodd a chreigiog gyda hiliaeth. Mae goddef dim hiliaeth yn orfodol yn ôl y gyfraith, ac mae cydnabyddiaeth fod ei angen yng Nghymru, ynghyd â hanes pobl Ddu.

Dyma fy nghyngor i: edrychwch tua’n cyndeidiau, rydym yn edrych tua’n hynafiaid a safwn ar eu hysgwyddau. Rydym yn edrych ar eu hesiampl o wydnwch, sut i ddelio gyda rhywbeth a bod yn ymroddedig i’r pen. Edrychwch ar y tosturi, ar beth mae eraill wedi’i ddangos i ni, a gweithio gyda’n gilydd – dydy ildio ddim yn opsiwn. Felly, fe ddwedwn i, byddwch yn gadarn, byddwch yn gryf, dydych chi ddim ar eich pennau eich hunain, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd. Mewn undod mae nerth, cariad yw’r grym cynhwysfawr sy’n ein cadw gyda’n gilydd.

Mae Cymru yn un o arweinwyr gwrth-hiliaeth y byd. Rwy’n dweud bod agwedd goddef dim at hiliaeth yng Nghymru yn freuddwyd y gellir ei gwireddu. Nid darlun rhithwir mohono, mae’n realiti cwbl bosibl. Rydyn ni’n cymryd camau, rydym yn llamu ymlaen. Pan fo hiliaeth yn codi ei ben aflan, rydyn ni’n ei sathru i lawr. Mae angen i bawb ohonom ddod ynghyd a bod yn rhagweithiol yn ein cynllun o oddef dim hiliaeth. Mae’n mynd i gael ei gyflawni erbyn 2030 oherwydd mae Cymru yn un o wledydd mwyaf dyngarol y byd. Does yna neb arall yn y byd wedi gwneud Hanes Pobl Dduon 365 yn rhan o gyfraith ac yn rhan o’n cwricwlwm cenedlaethol. Felly, rwy’n teimlo’n obeithiol wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith gwych ac rwy’n falch o fod yn Gymro.

Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

No results found.
keyboard_arrow_up
Skip to content