Pan ddigwyddodd y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a ninnau’n gweld y pethau oedd yn digwydd yn America, fe benderfynais i, ynghyd â phobl eraill o’r un anian, ddangos i’n cymuned ein bod yn cydsefyll, ac ein bod eisiau dod â’r sgwrs i ffocws. Roeddem eisiau i bawb o’n cwmpas wybod ein bod ni’n bobl oedd yn malio, oedd eisiau gwrando a gwneud rhywbeth am y pethau a oedd yn digwydd dramor yn ogystal â’r profiadau real iawn a oedd yn digwydd ar garreg ein drws yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym Mhorthcawl.
I mi, Mae Bywydau Du o Bwys yn syniad a chysyniad sy’n ymwneud â gwrando ar brofiadau pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig. Mae’n golygu cymryd pob cyfle i ddysgu am bethau nad oeddech, efallai, wedi dysgu amdanynt o’r blaen, neu efallai nad oeddech wedi’u deall oherwydd na wnaethoch erioed eu hwynebu o’r blaen. Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu peidio gwylio o’r cyrion dan yr amgylchiadau.
Roedd yn erchyll i’w weld, ond rwy’n meddwl ei fod yn fwy pwerus a dychrynllyd, wrth wrando ar leisiau Du, sylweddoli nad oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn sioc iddyn nhw, a doedd o ddim mor anghrediniol â hynny, am ei fod yn rhan o’u profiadau bob dydd. Roedd e’n agoriad llygad. Mae angen i hyn fod yn destun trafod. Mae’n rhywbeth y mae angen i ni, fel pobl wyn, fod yn siarad amdano, fel pobl mewn trefi lle nad oes poblogaeth eang o bobl Du a phobl eraill o ethnigrwydd lleiafrifol.
Rwy’n meddwl weithiau bod pobl yn meddwl mai problemau i’r dinasoedd yw’r problemau hyn. Mai rhywbeth sy’n digwydd yng nghanol dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe yw protestio. Mae’na ryw ganfyddiad hefyd “oherwydd nad oes poblogaeth eang o gymunedau Du mewn llefydd fel Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, yna nid ein problem ni yw hi”. Y ffaith yw bod pobl yn profi hiliaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Mae yna bobl sy’n gorfod byw gyda rhagfarnau a gwahaniaethu yn eu bywydau bob dydd, a dyna pam daeth pobl yma yn yr haul a’r glaw, pan roedd hi’n wyntog ac yn oer, i brotestio. Fe gawsom bobl yn dod â’u cŵn gyda nhw, gyda phlacardiau bach wedi’u gosod ar y cŵn. Roedd yma blant, babanod, pobl o bob rhywedd a phob hil yn dod ynghyd. Roedd yn fendigedig gweld bod pobl yn malio a bod awydd dysgu mwy ar bobl. Hefyd, doedd heb gael ei weld ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl o’r blaen, doedd e ddim yn rhywbeth a oedd ar yr agenda. Pan gyrhaeddom ni, roedden ni’n gosod ein baner i fyny ar hyd y gysgodfa fach oedd gennym ni, ac wrth roi ein bagiau dan y fainc a oedd yno, fe wnaethom ni sylwi bod rhywun wedi rhoi symbol Nazi mewn graffiti yno, ac roedd hynny’n dipyn o destun trafodaeth yn y brotest. Roedd yna brotest yn ei erbyn, ac fe lwyddom i gael pawb allan yn y gymuned ac ar y diwedd, penderfynodd pawb eu bod am roi eu placardiau dros y symbol Nazïaidd a oedd wedi’i roi ar y gysgodfa mewn graffiti.
Fe wnaeth hyn jyst gwneud i mi ddechrau meddwl am y ffaith na wnes i orfodi unrhyw un i ddod allan y diwrnod hwnnw pan drefnais i’r brotest honno, wnes i ddim gofyn i unrhyw un ddod â baneri na’r negeseuon ar y baneri, daeth pawb yn y gymuned ynghyd o’u gwirfodd yn erbyn hiliaeth, ac o blaid cymdeithas sy’n adlewyrchiad o gydraddoldeb ac sy’n rhydd o wahaniaethu. Dim ond syniad bach gwirion oedd e, gorchuddio’r symbol Nazïaidd, ond roedd yn golygu llawer iawn mwy. Dydyn ni ddim am oddef anghyfiawnder mwyach, boed hynny yng Nghaerdydd, yn Abertawe, yng Nghymru, ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu ym Mhorthcawl, rydyn ni oll am wneud yr hyn allwn ni ei wneud.
Fe ddwedwn i, pan nad yw pwnc yn effeithio arnoch chi, allwch chi ddim wir ddeall canlyniadau’r mater sy’n cael ei ddelio ag ef. Os ydych chi wir eisiau bod o ddifrif ynglŷn â deall hiliaeth sy’n digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, neu yn y wlad hon, mae angen ichi wrando ar y bobl y mae’n effeithio arnynt oherwydd unwaith y byddwch yn dechrau gwrando arnyn nhw, fyddech chi ddim o’r farn “nad yw’n effeithio arnom ni” oherwydd pan fo rhywbeth fel hiliaeth yn effeithio ar eich brawd neu’ch chwaer, mae’n effeithio arnom ni i gyd. Mae anghyfiawnder yn effeithio ar bawb a dydyn ni ddim yn gydweithredol yn ein gweithredoedd.
Mae fy llwybr tuag at weithredu yn mynd yn ôl i pan roeddwn i’n eneth fach, wedi fy ngwylltio cymaint pan welwn i bethau nad oedd yn iawn a byddwn yn dadlau gydag aelodau fy nheulu o amgylch y bwrdd bwyd ond wrth imi dyfu i fyny, rwyf wedi dysgu bod yn rhaid ichi fod yn strategol, mae’n rhaid ichi feddwl am eich gweithredoedd, mae angen ichi feddwl a chynllunio. Felly, mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn un o nifer o feysydd ble’r oeddwn i’n meddwl y gallwn wneud gwahaniaeth yn fy nghymuned leol. Mae pobl yn meddwl na allwch chi newid y byd, ond y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw’r hyn sydd o’ch blaen chi, sy’n rhan o gyd-destun mwy, ac ehangach.
I mi, Cymru wrth-hiliol yw Cymru sy’n golygu y gall unrhyw un, gyda chroen o unrhyw liw, gael yn union yr un cyfleoedd. Mae’n golygu hefyd bod angen inni wrando, mae angen inni ddysgu, ac yna mae angen inni fod yn rhagweithiol ynghylch sut rydyn ni am wneud pethau’n well. Does dim angen iddynt fyw gydag ofn a phwysau hiliaeth ar eu hysgwyddau.
Edrychwch i weld beth allwch ei wneud ar garreg eich drws, pwy arall sy’n siarad ac yn meddwl am wneud newid. Byddwch yn strategol, trefnwch, dewch at eich gilydd, a gallwch wneud gwahaniaeth.
Dim Cyfiawnder. Dim Heddwch.