I mi, mae bod yn gynghreiriad yn golygu defnyddio fy mraint a fy llais i hybu lleisiau nad oes cymaint o lwyfan ganddynt ag y mae fy llais i’n ei gael. Yn fy mraint fel cynghreiriad, rwyf eisiau gallu sefyll gyda phobl a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a gwneud cymaint ag y gallaf gyda’r fraint honno.
I mi, ystyr Mae Bywydau Du o Bwys yw cyfleoedd cyfartal, gwneud yn siŵr bod pawb yn y byd hwn yn cael cyfle teg. Credaf ein bod wedi mynd yn rhy hir yn credu mai dyna sy’n digwydd, ond y realiti yw nad felly mae hi. Ystyr Mae Bywydau Du o Bwys i mi yw bod yn onest, cydnabod y rhan y gwnaethom ni ei chwarae mewn creu cymdeithas hiliol, gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r droed iawn ymlaen ac yn ei newid e’n gyfan gwbl.
Pobl wyn yw Molly a fi ein dwy, ac fe gawsom ni lawer o sgyrsiau am hyn. Roeddem yn gwybod bod angen inni gynnal y brotest hon er mwyn i bobl o liw gael eu lleisiau wedi’u clywed yn ein cymuned, ac fe wnaethom benderfynu gwneud hynny fel pobl wyn gan ddefnyddio ein braint i greu lle i’r bobl o liw yn ein cymuned. Fe wnaethom ni benderfynu y byddai’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o’n helpu i’w hysbysebu. Fe wnaethom ni ddefnyddio Facebook, Twitter ein cyfrifon Instagram personol ein hunain, fe wnaethom ni greu posteri a chael cyfrif Google lle gallai bobl ebostio i gael gwybodaeth. Fe wnaethom ddefnyddio popeth posibl i wneud hwn yn ddigwyddiad mor fawr â phosib.
I mi, mae’n golygu gwneud cymaint ag y gallwn ni. Nid yw’n ddigon dweud nad ydych chi’n berson hiliol. Fe ddylech chi fod yn weithredol a gwneud pethau i ddysgu am ein gorffennol a’r cyfrifoldeb oedd gennym ni yn hynny fel pobl wyn. Mae angen inni fod yn addysgu gwrth-hiliaeth yn yr ysgol ac yn newid y cwricwlwm. Mae angen inni ddatblethu popeth rydyn ni wedi ei adeiladu, gan ymdrochi yn y diwylliant ac amrywiaeth hardd sydd gennym yng Nghymru. Buaswn wrth fy modd yn gweld lle i ddathlu’r diwylliannau hynny yma ym Merthyr. Mae’n ymwneud â dysgu beth rydyn ni wedi’i wneud ac yna cymryd camau ymlaen i ddatblethu hynny a gwneud y gwaith y mae angen inni ei wneud fel pobl wyn i wneud yn siŵr nad yw hynny’n digwydd eto.
Fe hoffwn ddweud bod Gwrth-hiliaeth wedi bod yn fy mywyd am gyfnod hir, ond dyma’r brotest gyntaf i mi ei threfnu, ac o wneud hynny, rwy’n gwybod y dylwn fod wedi bod yn gwneud mwy yn gynharach na hyn. Roedd angen inni wneud yn siŵr bod y camau nesaf yn cael eu gofalu amdanynt hefyd, felly fe wnaethom ni drefnu protest ar Zoom i ofyn i’n llywodraethwyr a gwleidyddion lleol beth oedd am ddigwydd nesaf a sut oedden nhw’n sicrhau ein bod yn byw mewn Cymru wrth-hiliol?
Un o’r pethau cyntaf wnes i pan oedd mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn ei anterth oedd gwneud placardiau a mynd â nhw lawr i ardal sy’n lleol iawn i mi, efallai bum munud lawr yr hewl, ac o fewn deg munud, tynnwyd nhw lawr a phobl yn rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud “does dim lle i hyn yn ein cymuned ni, dydyn ni ddim angen gwneud unrhyw beth, ’dyw hiliaeth ddim yn bodoli yma”. Fe wnaeth hynny imi deimlo’n ddig ac roeddwn i eisiau gadael i bawb wybod, a dyna wnaeth ysbrydoli’r brotest oherwydd roeddwn i angen i bobl glywed y lleisiau o’n cymuned leol a chael gwybod bod hiliaeth yn bodoli yn ein cymuned. Fe gawsom ni gymaint o leisiau hynod yn cael eu lleisio’r diwrnod hwnnw, yn rhannu eu profiad bywyd. Fe wnaethom ni wrando, fe wnaethom ni ddeall beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud, fe wnaethom ni ymateb iddyn nhw, ac ymddwyn cystal â phosibl wrth roi’r wybodaeth orau bosibl i unrhyw un a oedd yn credu nad yw hiliaeth yn bodoli yng Nghymru.
Rydym wedi clywed y lleisiau hynny; mae’n rhaid inni gydnabod a chredu ynddyn nhw oherwydd maen nhw’n safbwyntiau gwirioneddol. Wrth inni gamu ymlaen, rydyn ni’n eu derbyn, yn dysgu, ac yn ein gwella ein hunain.
Roedd yn dorcalonnus ac yn ddychrynllyd. Hyd heddiw, mae’n dal i dorri fy nghalon a fy nychryn i. Ond fel person gwyn, rwy’n teimlo fy mod cymaint llai na’r bobl o liw, y bobl Ddu yn fy nghymuned ac yn fyd-eang, alla’ i ddim amgyffred sut maen nhw’n siŵr o fod yn teimlo. Rwy’n teimlo’n dorcalonnus a hefyd yn drist ar ran y bobl o fy amgylch, pobl nad ydynt yn wyn ac sy’n teimlo cysylltiad llawer mwy personol â’r fideo hwnnw.
Fe ddwedwn i, gwnewch gymaint ag y gallwch chi, cymrwch gam yn ôl a chydnabod y fraint sydd gennych chi a’i defnyddio. Peidiwch â bod yn flin gyda’r fraint honno, ond ei defnyddio hi a helpu’r bobl o’ch cwmpas chi sydd heb y fraint honno.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.