Dwi wedi cael sawl profiad o hiliaeth. Dwi wedi cael fy ymosod arnaf fwy na 7 o weithiau gan rywun nad ydw i’n eu ’nabod, jyst oherwydd fy mod yn Ddu ac am fy mod i’n gwneud gwaith i ddiogelu’r gymuned. Hyd yn oed ar ôl i mi symud i Fangor, dydw i erioed wedi gadael y gymuned ar ôl. Rwy’n mynd i’r brifysgol, ac mae gen i fathodyn gweithio fel swyddog diogelwch. Dros y blynyddoedd, yn ystod y penwythnos pan fo pobl allan yn cael partïon, rwy’n rhoi fy ngwisg amdanaf ac yn diogelu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned. Yn ystod y broses o wneud yr hyn rwy’n angerddol drosto ar ran fy nghymuned, rwyf wedi cael fy ymosod arnaf sawl tro. Y tro diwethaf i mi gael fy ymosod arnaf, roeddwn i’n isel am 6 mis heb wneud dim yn fy mywyd. Er hynny, rwy’n diolch i Dduw fy mod yn fyw, a dwi’n dal i helpu’r gymuned, sydd hefyd yn caniatáu i mi fyw o fewn fy nghymuned. Fe wnes i ddewis swydd bwysig iawn, sef helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a fuaswn i ddim yn gadael i unrhyw beth fy stopio.
Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu llawer i mi. Ar y diwrnod y gwnaeth Sundiata Keita ffurfio ymerodraeth M gyda’r Mandinkos, meddai, ‘ni ddylai’r un bod dynol fod mewn caethiwed gan fod dynol arall.’ Ar y diwrnod hwnnw, gwyddwn mai dim ond megis dechrau mae’r frwydr. Mae fy nghyndadau’n rhan o’r frwydr honno; fe wnaeth fy nghyndeidiau ryddhau llond tref o gaethweision gan fasnachwyr caethweision a’u meistri mewn lle o’r enw Kauru yn Gambia. Mae’r caethion hynny a ryddhawyd yn dal i fod gennym ni.
Mae bywydau pawb o bwys, yn enwedig bywydau’r hil sydd wedi cael ei hymosod arni fwyaf yn hanes dynoliaeth, sef yr hil Ddu. Rydyn ni wedi bod yn cael ein hymosod arnom ers cyfnod y Pharoaid. Dydyn ni erioed wedi cael llonydd; fuasen ni ddim yn y sefyllfa hon heddiw pe bydden ni wedi cael llonydd. Mae’r ymdrechion yn parhau, mae’r byd yn gwrando, a gallwn weld nawr fod y byd wedi sylweddoli na fydd y byd yn symud modfedd heb yr hil Ddu, heb bobl Ddu.
Fe wnaethom adeiladu’r byd gyda 350 o flynyddoedd o lafur caeth am ddim i greu’r system gyfalafol hon; y wal gyntaf maen nhw’n ei galw. Codwyd balchder y wal gyntaf ar chwys a gwaed fy nghyndeidiau, heb unrhyw boen, yn ôl ein hil. Waeth beth ein hamgylchedd naturiol, mae cynhesu byd eang a newid hinsawdd yn cael ei greu, ac mae ein pobl ni yn dal i fyw yn yr anialwch. Allwn ni ddim fforddio byw yno mwyach; does neb yma i wrando ar stori ein pobl. Dyma ein stori; dyma lle mae’r frwydr yn parhau o hyd, gan edrych yn ôl 5,600 o flynyddoedd pan ganed ymerodraeth Mali. Rydyn ni’n gweld rŵan fod pobl yn addysgu eu hunain, ac rydyn ni’n wynebu realiti.
Y realiti yw bod ein profiad fel hil ddynol wedi dod i’r goleuni. Mae’n golygu bod angen inni ddod ynghyd waeth beth ein hil neu’n lliw, a diogelu’r adnoddau sydd wedi’u rhoi i ni, er mwyn i ni oll gael gwell ansawdd bywyd.
Dim ond elfen uniongyrchol yw marwolaeth George Floyd. Mae yna gymaint o farwolaethau, yn cynnwys Malcolm X, Martin Luther King, Jeff Kennedy. Dyma yw tswnami o ymwybyddiaeth, i’r byd sylweddoli fod rhai pobl yn meddwl y dylai’r hil fwyaf poblog yn y byd orfod byw fel bodau is-ddynol. Felly, roedd ei farwolaeth er ein hachos. Fo ydi’r oen aberthol, bu farw nifer o ddynion da o’i flaen o, mae’n rhaid i rywbeth gael ei wneud, a dyna pam rydyn ni oll yn chwarae ein rhannau bach. Fel dywedodd fy ewythr, os yw pob llaw fach yn y gymdeithas hon yn brysur yn gwneud rhywbeth, yna bydd yn gymdeithas braf i fyw ynddi. Rwy’n gweld hynny, a gallaf weld hynny’n digwydd.
Rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn protestio a gweithredu erioed. Fe safais yn erbyn trefn filwrol yn Gambia yn 1994 i’w herio bod ffordd arall o gael dod i rym yn hytrach na’r ffordd ddidrugaredd o ddefnyddio’r arfau a roddwyd iddynt i ddiogelu’r dinasyddion, a’u troi ar y dinasyddion hynny i’w gormesu yn hytrach. Ac i mi gael dweud, dim ond 15 oed oeddwn i bryd hynny. Fe fues i’n gweithio gyda’r filwriaeth hefyd i greu amserlen ar gyfer democratiaeth, ac fe wnaeth hynny barhau dim ond dwy flynedd yn ôl cofnod newyddion Gambia. Dwi wedi bod yn arwain protest yn fy nghymuned yn brwydro yn erbyn newyn, fe wnaethom adeiladu fferm fawr, a’i ffensio, a darparu dŵr i’r gymuned hefyd. Mae’n brotest i fwydo ein pobl ein hunain.
Hefyd, fe wnaeth fy ffrindiau a mi feddiannu Llysgenhaty’r Gambia yn 2012 pan roedd yr unbennaeth yn ei anterth yn y Gambia, fe wnaethom ni feddiannu’r safle ddiplomataidd Gambiaidd am bron i ddiwrnod, fel modd o gofnodi ein dicter i randdeiliaid rhyngwladol byd-eang, i’w gwneud yn hysbys nad yw hi’n sefyllfa busnes fel arfer yma fel oedd hi’n arfer bod. Diolch i Dduw, daeth ein buddugoliaeth yn 2016. Mae protest yn rhan o fy mywyd; dwi’n protestio dros achos da ac rwy’n dal i fynd tan wela’ i olau ym mhen draw’r twnnel.
Fe oeddwn yn alltud am 15 oherwydd y stỳnt honno, roeddwn i’n gweithio yn y banc, y banc Standard Chartered, ar gyflog da iawn. Allaf i ddim derbyn byw bywyd safonol pan fo pobl eraill nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael eu hystyried yn fodau dynol, felly dwi am ddal ati i brotestio.
Fy nghyngor i yw ichi brotestio. Dydi hynny ddim yn golygu eich bod yn flin, mae’n golygu eich bod eisiau hoeli sylw’r rhanddeiliaid ar gydnabod bod rhywbeth sylfaenol yn mynd o’i le ymysg cymdeithas dynolryw. Mae protest yn rhan o hawl sifil, cymdeithasol, a gwleidyddol pawb. Er mwyn diogelu a gwarchod ein hunain, mae mynegi teimladau i randdeiliad yn hollbwysig. Dwi’n cynghori pob person ifanc i ddod allan gyda chynllun ynghylch y pethau sy’n destun pryder iddyn nhw a’u bywydau, ac a fydd yn eu gwneud nhw’n berson gwell. Fe ddylen nhw ddod ynghyd i ddod o hyd i ffordd o brotestio. Mae cymaint o ffyrdd y gallwch brotestio. Gallai hynny fod drwy brotestio ar-lein, deisebau, gwrthdystiadau, symposia, a llawer mwy o ddulliau sy’n llai drud. Ni yw’r bobl sydd gyda chymaint o broblemau i’w datrys, a dydan ni ddim yn eu trafod. Mae’n bryd i ni ei gydnabod, siarad amdano, a chwarae ein rôl yn y gymuned i frwydro yn erbyn ystrydebu ac anghydraddoldeb.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.