BLM CODI CYMRU logo web

Uzo Iwobi

Protest location

BLM Abertawe

Share

Mae BLM yn sefyll am Mae Bywydau Du o Bwys. I mi, mudiad yw Mae Bywydau Du o Bwys, galwad gadarn, atseiniol i weithredu, cyfle i ni gydsefyll gyda brodyr a chwiorydd Du, Asiaidd, gwyn, o Ddwyrain Ewrop, pa bynnag genedlaetholdeb; Sipsi, Roma, dewch inni gydio dwylo gyda’n gilydd fel un ddynoliaeth i wrthsefyll effaith gormes hiliol, i wrthsefyll effaith niweidiol hiliaeth. Credaf fod hiliaeth yn bandemig, a bob dydd, mae bywydau Du yn cael eu gwneud yn fywydau nad ydynt o bwys. Caiff bywydau Du eu colli. Ac mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn rhoi cyfle i bawb weithredu’n rhagweithiol, i ddiddymu hiliaeth ac i siarad yn erbyn hiliaeth, i herio’r goblygiadau negyddol a’r effaith niweidiol, a’r dylanwad mae hiliaeth yn ei gael ar ein bywydau. Felly Mae Bywydau Du o Bwys i mi yn hanfodol, ac mae wedi arwain at newid dirgrynol yn nealltwriaeth ein cenedl o sut mae pobl Ddu’n cael eu gwneud i deimlo yn ein cymdeithas.

Rwyf wedi cael fy ngham-drin yn hiliol gan blant a phobl ifanc. Torrwyd ffenestri fy nhŷ gan bobl hiliol. Fe grafodd ein cymydog mewn un stad y gair N ar fonet y car gwyn a werthodd hi i ni, ac arweiniodd hynny at i ni alw’r heddlu. Dywedodd wrthym i ‘F off’ i’r wlad y daethom ohoni, a’n bod wedi dod o’n gwledydd ni i ddwyn eu swyddi, i ddwyn eu harian. Cafodd fy mhlant ill dau eu cam-drin yn hiliol. Cafodd fy mab ei gloi mewn toiled yn saith mlwydd oed gan blant eraill gwyn, a oedd hefyd yn saith oed, a ddywedodd nad ydynt eisiau plant Du yn yr ysgol, a chafodd ei gicio yn egr ac yn frwnt iawn. Cafodd fy merch brofiad o bobl yn poeri yn ei beiro, yn rhoi’r pen yn ôl arno, ac yn dweud wrthi am ysgrifennu ei A seren ym mhwnc cerddoriaeth gyda’u poer nhw yn ei beiro.
Roedd lefel yr hiliaeth yn ofnadwy. Bu’n rhaid i ni oll, fel teulu, symud tŷ ddwywaith oherwydd ymosodiadau hiliol a graffiti a thorri ein ffenestri. Jyst profiadau cwbl erchyll. Ac rwyf wedi wynebu hiliaeth yn y sefydliadau’r wyf wedi gweithio ynddynt. Yn y sefydliadau ble’r ydych i fod yn dysgu ac yn cael eich addysgu, mewn sefydliadau ble’r ydych i fod yn cynnal cyfraith a threfn. Mae’r un unigolion, rheolwyr, uwch arweinwyr hynny, wedi bod yn gwbl erchyll yn eu triniaeth. Ac rwyf wedi gorfod sefyll yn erbyn hiliaeth. Rwyf wedi gorfod eu herio. Rwyf wedi gorfod mynd â rhai pobl i’r llys. Rwyf wedi gorfod parhau i wrthsefyll.

Pan ddigwyddodd marwolaeth George Floyd, roedd gennym ni gymaint o bobl mewn dagrau. Naw munud a 27 eiliad a gymerodd i ladd y dyn hwn. Penliniodd dyn gwyn o’r enw Derek Chauvin ar ei wddf. Yr elfen waethaf oedd ei fod wedi rhoi ei ddwy law yn ei boced mewn ffordd mor hamddenol. Doedd dim ots ganddo. Doedd ganddo ddim ofn, dim dicter, a dim teimlad, doedd yna ddim ymateb o gwbl yn ei gorff. Roedd yn waeth na lladd anifail. Y ffaith fod pobl yn ei ffilmio, doedd o ddim yn ymddangos bod ots ganddo oherwydd mae e’n credu mai byd y dyn gwyn yw hwn, ac mai ef fyddai’n ennill. Crynodd cymaint ohonom ni mewn arswyd wrth weld dyn yn ei oed a’i reswm yn wylo am ei fam. Roedd ias yn rhedeg drwy bob un ohonom ni. Yn ein hwynebau ni oll, yn yr 21ain ganrif, i ddyn Du gael ei ladd gan ddyn gwyn yn penlinio ar ei wddf ac yntau’n dweud ‘I can’t breathe’.

Mae’n debyg mai dyma un o’r pethau mwyaf dychrynllyd a welais erioed yn fy mywyd. Felly byddai gallu sefyll gyda brodyr a chwiorydd a chwifio fy mhlacard wedi bod yn fraint fwyaf fy mywyd, mewn ymateb i farwolaeth George Floyd. Ar yr union ddiwrnod hwnnw, roeddwn i’n gweithio fel cynghorydd polisi arbenigol ar gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru, ac roedd yn rhaid i mi wynebu fy ngwaith bob dydd yn gwybod na allwn, yn y swydd honno, fynd allan i’r strydoedd. Allwn i ddim protestio oherwydd ein bod yng nghanol pandemig anferthol. Roedd pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn marw ar gyfradd o bedwar i un. Ac felly, y cyfarwyddiadau i’r genedl gyfan oedd, ‘rydych chi mewn cyfnod clo’, mae’n rhaid ichi eistedd ac aros a pheidio bod mewn cysylltiad ag eraill, oherwydd roedd yr haint hwn yn lledaenu a mwy o bobl yn marw. Allwn i ddim protestio, felly penderfynais drefnu protest rithwir, a hynny’n cynnwys mwy na 156 o fynychwyr ar Zoom a mwy na 43 o siaradwyr o bob rhan o’r byd, yn cynnwys America, yn cynnwys Nigeria.

Fe wnaeth pobl siarad yn erbyn effaith ddinistriol hiliaeth, ac arweiniodd hynny at i ni alw am glustnodi hiliaeth a’i ddynodi yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, gall y llywodraeth ddechrau darparu cefnogaeth ac adnoddau ariannol i helpu pobl sy’n delio gydag iechyd meddwl, i ddarparu cefnogaeth i’n plant ifanc sy’n parhau i wynebu hiliaeth yn yr ysgol. Felly, roedd y brotest ar-lein yn un bwerus a llwyddiannus iawn, ac roedd yn golygu y gallai llawer o siaradwyr ddod ynghyd ag ymuno â ni. Roedd yn bwerus, yn rhyddhaol, ac yn bwysig. Roedd yn bwysig i’r bobl a aeth allan ar y strydoedd, y rhai a allai wneud hynny, fynd amdani. Roedd yr un mor bwysig i’r rhai ohonom nad oeddem yn gallu, gynnal ein sesiynau Zoom. Dyna pam mae fy nghyfweliad heddiw’n cael ei gynnal ar Zoom, oherwydd rydym am wirioneddol gyfleu sut dewisodd pawb brotestio. Ac wrth gwrs, yn fwy diweddar, yn dilyn y lleihad yn y pandemig COVID a gyda gwaith Sefyll yn Erbyn Hiliaeth yn parhau, fe wnes i orymdeithio gyda fy mrodyr a chwiorydd ar strydoedd Caerdydd, ac fe orymdeithiodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd, i brotestio am yr hiliaeth sy’n felltith ar fywydau pobl gyffredin yn ein cymdeithas.
Rwyf wedi bod yn weithredwr erioed, ond dyna’r tro cyntaf i mi fynd allan ar y strydoedd. Rwyf wedi bod yn weithredol drwy fynd i’r Senedd, at y pwyllgor, a siarad am yr angen i wreiddio hanes pobl Ddu yng nghwricwlwm yr ysgolion. Rwyf wedi cael fy ngwahodd i siarad yn sesiynau caeedig y Senedd. Rwyf wedi bod yn lobïo gweinidogion y llywodraeth, yn ymweld â nhw ac yn ysgrifennu llythyrau. Fe ddwedwn i fod fy ngweithredu hyd y dyddiad hwnnw yn digwydd drwy gyfrwng ysgrifennu llythyrau, cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Seneddol. Roeddwn wedi llofnodi gwybodaeth am brotestiadau, ysgrifennu darnau beirniadol, lobïo a mynegi fy hun yn ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb, wedi rhoi tystiolaeth ar lafar, ond erioed wedi gorymdeithio ar y stryd nes imi orymdeithio gyda Sefyll yn Erbyn Hiliaeth. Felly roedd hwnnw’n brofiad arbennig i mi. Ond yn ystod y pandemig, daeth fy nheulu a minnau allan o’n tŷ, gyda’n placardiau, aethom i lawr ar un ben-glin, codi ein dwrn i’r awyr fel arwydd o undod, tynnu ffotograffau i dystiolaethu rhyddid, a rhannu hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig nodi ein bod wedi gwneud cymaint ag yr oedden ni’n gallu ei wneud o fewn cyfyngiadau’r gyfraith.

Yr unig ffordd o wybod sut mae’n teimlo i fod yn profi hiliaeth a bod yn Ddu yw gwisgo mocasinau person Du neu roi esgidiau’r person hwnnw am eich traed a cherdded yn lliw eu croen am jyst un diwrnod. Byddai eich agwedd yn wahanol be bai’n rhaid ichi anfon eich plant i’r ysgol i gael addysg, a hwythau’n dod adref wedi colli bys, yn dod oddi yno wedi’u lapio mewn bag corff, wedi’u gwthio i’r afon – yn farw, neu’n dod oddi wrth gyswllt â’r heddlu wedi marw. Mae’r profiadau hynny yn chwalu bywydau pobl Ddu gyffredin yn llwyr. Ac rwyf am ddweud, fe wna i barhau i brotestio a defnyddio fy llais a fy mhleidlais. Fe wna i barhau i orymdeithio ar y strydoedd. Fe wna i barhau i orymdeithio gyda phobl o’r un anian yn erbyn pob mathau o anghyfiawnderau hiliol, oherwydd nes gwnawn ni hynny, wnaiff pethau fyth newid.

Mae Bywydau Du o Bwys yn berthnasol heddiw, ac fe sefydlais i Fforwm Polisi Mae Bywydau Du o Bwys Cymru, rydyn ni’n ei alw yn: Cydweithredfa Mae Bywydau Du o Bwys Cymru, sydd wedi’i ffurfio o holl arweinwyr protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys o amgylch Cymru gyfan. Fe wnaethant lunio maniffesto a’i ddefnyddio i ddylanwadu ar y llywodraeth a chefnogi ymgynghori ag unigolion i sicrhau bod y cynllun gwrth-hiliaeth yn cael ei roi ar waith yn llawn. Felly, rwy’n rhan o’r siwrne honno, ac rwyf wrth fy modd bod gennym lywodraeth yng Nghymru sydd dan arweiniad yr Anrhydeddus Brif Weinidog yr Athro Mark Drakeford a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a frwydrodd yn galed i wneud bywydau’n well i bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifol ethnig fel fi.

Fy neges i i genedlaethau’r dyfodol yw: Meiddiwch fod yn fentrus, Meiddiwch herio, Meiddiwch GODI a chael eich cyfrif. Ie! Meiddiwch godi eich llais a siarad yn erbyn anghyfiawnder hiliol ac anghyfiawnderau eraill yn ein cymdeithas, Meiddiwch alw am gywiro anghyfiawnderau hanesyddol, nawr yw eich amser i sefyll a meiddio gwthio’r drafodaeth a dal gweithredwyr y gyfraith i gyfrif. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, bydd hiliaeth a gormes yn ffynnu os gwnewch chi ddim byd. Pan laddwyd George Floyd, CODI wnaeth Cymru.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content