BLM CODI CYMRU logo web

Anna Arrieta

Protest location

BLM Pen-y-bont ar Ogwr

Share

Rwy’n credu bod fy rôl fel cynghreiriad yn rhywbeth rwyf wedi’i ddatblygu drwy fy ngwaith, a hefyd fy mhrofiadau o fyw mewn tref heb lawer iawn o amrywiaeth, llawer iawn o ddiwylliant; ac mae bod yn rhan o ddiwylliant gwahanol, diwylliant Latina neu America Ladin, ddylwn ei ddweud, yn golygu bod angen llywio drwy’r gofod hwnnw a theimlo fel eich bod yn perthyn mewn tref fach fel hon. Ac mae hynny’n rhywbeth roeddwn i’n ei wynebu bob amser wrth dyfu i fyny, felly mae hynny wedi bod o ddiddordeb i mi erioed. Rwy’n meddwl y dylai pobl, holl bobl, gael cyfle cyfartal mewn bywyd. A dyna fy egwyddorion, dyna fy ngwerthoedd i. Felly, mae fy rôl fel cynghreiriad yn rhywbeth rwy’n canolbwyntio’n arw arno yn fy ngwaith. Rwyf wedi gweithio gydag elusennau anhygoel, yn rheoli prosiectau ac wedi dysgu llawer gan bobl anhygoel, arbennig yn y sector ieuenctid yn enwedig, pobl sy’n angerddol dros gynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb. Ac mae hyn yn rhywbeth rwyf i wir eisiau bwrw ymlaen ag ef ac yn rhywbeth rwyf i’n canolbwyntio arno bob dydd, wrth imi symud ymlaen i wahanol rolau a swyddi.
Roedd yn gwbl erchyll gweld llofruddiaeth George Floyd ar y cyfryngau cymdeithasol. Dychrynllyd, trallodus, ond hefyd yn fodd o’n hatgoffa o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, a doedd hwn ddim yn achlysur untro digynsail. Felly, roedd e’n sbardun i bawb.

Fe wnes i ddod yn rhan o Mae Bywydau Du o Bwys drwy Race Council Cymru, ac rwy’n credu drwy fy ngwaith yn y sector ieuenctid hefyd. Roedd cysylltiadau wedi bod erioed gyda grwpiau tebyg i Mae Bywydau Du o Bwys, ac o adnabod pobl eraill yn fy nghylch ym Mhorthcawl, pobl a oedd yn gynghreiriaid go iawn, roeddwn i eisiau ymuno a bod yn rhan o hynny, ac roeddwn eisiau gweithio gyda nhw ar fater a oedd yn golygu rhywbeth ar y pryd.

Beth yw ystyr Mae Bywydau Du o Bwys? I mi, Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu cydnabod a chodi ymwybyddiaeth am yr anghyfiawnder a’r gwahaniaethu y mae pobl Ddu yn ei wynebu bob dydd yn ein cymdeithas, a hefyd brwydro yn erbyn yr anghyfiawnder hwnnw.
Fe wnaethom ni drefnu protestiadau oherwydd, wel, fe wnaeth e danio angerdd ym mhawb ac roeddem ni am chwarae ein rhan. A dim ots pa mor fach oedd y rhan honno, roedden ni eisiau cael pobl i gymryd rhan a dod â chymuned o bobl ynghyd fel cynghreiriaid. Ac roedd yn anodd ar y pryd oherwydd y Pandemig ac roedd yna rai pobl yn ein tref… Roedd yna rai pobl yn ein tref yn gwrthwynebu cynnal protestiadau, ond rwy’n credu bod yr holl bethau hynny jyst wedi’i wneud e’n bwysicach fyth eu cynnal. Ac fe roddodd y sbardun a’r symbyliad i ni fwrw ’mlaen. Roedd yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd, pobl roedden ni’n eu hadnabod, pobl doedden ni ddim yn eu hadnabod

Dyma’r brotest gyntaf i mi ei mynychu a helpu i’w threfnu. Rwy’n credu, yn nhermau fy siwrne tuag at weithredu, fy mod i’n dal i fod ar y siwrne, ac yn dal i ffeindio fy ffordd drwy bethau fel y cyfryngau cymdeithasol ac ati ar hyn o bryd. Rwy’n ceisio go iawn i greu newid lle galla’ i greu newid, a gwneud pethau drwy fy ngwaith, drwy fy mywyd bob dydd, rwy’n sefyll yn erbyn hiliaeth. Rwy’n gweithio’n galed i symud oddi wrth fod yn berfformiadol yn fy ngweithredu, yn rhannu ar Instagram a’r holl bethau felly sy’n gallu ymddangos weithiau fel bod dim byd yn digwydd. Rwy’n dal i fod ar y siwrne honno. Dydw i’n sicr heb gyrraedd y pwynt o fod y gweithredwr yr hoffwn ei fod, ond rwy’n dal i’w archwilio a gweld beth sy’n gweithio i mi, a sut dwi’n ryw ffitio mewn i’r gofod hwnnw hefyd.

Os nad ydych chi erioed wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu, efallai ei bod yn hawdd wfftio gweithredu. Os nad ydych chi’n gwybod sut mae’n teimlo i gael micro-ymosodiadau yn eich erbyn bob dydd, gall fod yn anodd ei gredu weithiau. Ond fe fuaswn i jyst yn dweud bod angen i bobl ddechrau addysgu mwy ar eu hunain a chlywed y straeon gan bobl sydd yn wynebu hiliaeth a gwahaniaethu bob dydd a gwrando ar y straeon hynny ac mewn gwirionedd, derbyn eu braint.
I mi, mae Cymru gynhwysol a gwrth-hiliol yn edrych fel sefydliadau’n dod at ei gilydd, asiantaethau’n dod at ei gilydd i lunio strategaethau a rhoi cynlluniau ar waith go iawn i greu polisïau, gweithdrefnau i fynd i’r Senedd a brwydro o blaid yr achosion hyn ar lefel genedlaethol, brwydro ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Mae hefyd yn golygu bod angen i ysgolion addysgu mwy o bobl ar fod yn wrth-hiliol a chynhwysol.

Fe ddwedwn i, wrth ichi dyfu i fyny, rydych chi’n dysgu pethau amdanoch eich hunain ac yn dod yn fwy hunanymwybodol. Mae unrhyw beth y gallwch ei roi ar waith i fod yn fwy hunan-ymwybodol, i ddysgu mwy am yr hyn rydych chi’n credu sy’n iawn neu’n anghywir, dysgu mwy am eich egwyddorion a’ch gwerthoedd, hyd yn oed os yw’n golygu torri pobl tocsig allan o’ch bywyd, mae’n rhaid ystyried hyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn jyst gwybod pwy ydych chi, dysgu amdanoch chi’ch hunain, bod yn ddiffuant, a thrwy hynny byddwch yn gwybod beth yw gweithredu gwirioneddol, beth rydych chi’n credu ynddo, ac yn datblygu eich sbardun i fod yn wrth-hiliol.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

No results found.
keyboard_arrow_up
Skip to content