Mewn cymaint o ffyrdd, rwyf wedi profi hiliaeth i’r fath raddau fy mod yn dechrau gweld hiliaeth fel rhan o normau a diwylliant y wlad, yn yr ystyr fod pobl yn eich gweld chi’n wahanol pan fyddan nhw’n edrych arnoch chi. Rwy’n meddwl eu bod yn meddwl am rywun o’r goedwig, rhywun o Anialwch y Sahara, lle nad oes dim byd yn gweithio, ac maen nhw’n jyst eich gweld fel bod dynol gwahanol. Dros fy mlynyddoedd yn byw yn y DU, rwyf wedi profi’r fath hiliaeth. A dweud y gwir, yr un a ddigwyddodd yn 2020 oedd yr un a oedd yn andros o ddwys. Fe aeth yr achos i’r llys, ac fe wnes i sefyll drosof fy hun heb gyfreithiwr, a bydded gogoniant Duw, fe enillais yr achos.
Mae hiliaeth yn rhywbeth na fuaswn i’n ei ddymuno i fy ngelyn pennaf, oherwydd mae’n gwneud ichi deimlo mor israddol. Mae’n gwneud ichi deimlo, ble bynnag yr ewch chi, rydych chi’n meddwl pwy a ŵyr beth ddaw nesaf. Mae’n gwneud ichi deimlo’n ddigroeso, yn gwneud ichi deimlo wedi’ch iselhau. Mae’n brofiad na fuaswn i’n ei ddymuno i fy ngelyn pennaf.
Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Mae’n teimlo fel galwad i ddeffro. Mae’n teimlo fel llwybr rwyf i wedi bod yn erfyn amdano gydol fy oes oherwydd mae hiliaeth wedi bod yn digwydd mewn cymaint o lefydd, cymaint o weithiau. Rydyn ni wedi bod yn cwyno amdano ar y cyfryngau cymdeithasol, yn siarad amdano, ond bydded gogoniant Duw, fe dalodd bywyd rhywun amdano a rhoddodd hynny hwb iddo a ddaeth ag ef i’r goleuni. Er hynny, mae ymdrechion wedi bod i ddiddymu Mae Bywydau Du o Bwys drwy ddweud, mae pob bywyd o bwys. Ydi, mae pob bywyd o bwys, ond rydyn ni’n siarad am set benodol o bobl yma, grŵp penodol o bobl sy’n ymddangos fel eu bod yn wynebu anghyfiawnder dwys iawn, ac felly dyna’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, i wneud i bobl ddeall bod ein bywydau ni o bwys hefyd.
Mae’n boenus. Mae yna ddywediad yn ein lle ni, yn fy iaith i neu yn fy ngwlad i, sy’n mynd fel hyn, “pan fyddan nhw’n cario corff rhywun arall, mae’n teimlo fel eu bod yn cario boncyff, darn o bren, neu goeden”. Wyddoch chi ddim sut mae’n teimlo pan fo rhywun yn wylo dros golled aelod o’u teulu neu fab neu beth bynnag, nes byddwch chi’n ei deimlo eich hun. Roedd gwylio sut bu’r dyn hwnnw farw mewn poen, sut llefodd am gyfiawnder, sut bu iddo wylo dagrau, rhywbeth sy’n gwneud i ddyn yn ei oed a’i reswm waeddi’n groch, llefain amdano, roedd yn arwydd o anobaith. Doedd ganddo ddim arall i’w ddweud na dim arall i wylo amdano ond galw am ei fam, yr un a ddaeth ag ef i’r byd poenus ac anffodus hwn rydyn ni’n byw ynddo. Felly, roedd yn dorcalonnus meddwl amdano, a chofio amdano nawr. Rwyf jyst yn ceisio atal y dagrau, oherwydd roedd yn beth torcalonnus iawn i’w weld, i’w brofi.
Roedd clywed y barnwr yn America, yn datgan buddugoliaeth ac anfon Derek Chauvin i’r carchar yn teimlo’r un fath a chodi Cwpan y Byd. Roedd yn rhyddhad aruthrol gwybod y gallai barnwr ar dir America gyhoeddi ei fod yn euog. Roedd yn rhywbeth nad oeddwn i erioed yn meddwl a allai ddigwydd oherwydd yr holl ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cadw dan orchudd cyn hyn. Ond roedd yr achos hwn yn arwydd bod cyfiawnder, ydi, mae cyfiawnder yn dechrau blaguro.
Roedd yn ysbrydoliaeth gwybod y bydd pobl yn eich clywed os gwnewch chi waeddi’n groch.
Fe fuaswn i wrth fy modd yn dweud wrth ein cenhedlaeth bresennol a rhai’r dyfodol, peidiwch fyth â chael eich bwlio i fod yn dawel. Peidiwch â bod yn llwfr hyd yn oed os ydych chi’n sefyll ar eich pen eich hun yn gwaeddi a phobl ddim yn gwrando, daliwch ati i waeddi dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo. Sefwch dros eich hawliau.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.