BLM CODI CYMRU logo web

Iolanda Banu Viegas

Protest location

BLM Wrecsam

Share

Dw i wedi profi hiliaeth ar sawl achlysur, nid jyst fi fy hun, ond fy mam hefyd. Fe wnaeth hi ddioddef hiliaeth ac mae llawer o aelodau o fy nghymuned wedi bod yn dioddef oherwydd y broblem hon. Felly, mae’n fater sy’n parhau.

Rwy’n rhan o Gymuned yma yn Wrecsam, cymuned y gwnaethom ei ffurfio tua deng mlynedd neu fwy yn ôl, oherwydd fe’m ganed ym Mozambique ac rwy’n rhan o’r diaspora Portiwgalaidd. Rydyn ni wedi’n ffurfio o tua 2000 o ddisgynyddion siaradwyr Portiwgaleg sy’n byw yn yr ardal, ac mae gennym aelodau o Bortiwgal, Mozambique, Angela Santo, Cape Verde, Timor, Macau ac ati. Rydyn ni wrth ein boddau’n dod ynghyd, yn rhannu ein diwylliannau a thraddodiadau gwahanol, ond yr unig beth sydd gennym yn gyffredin yw ein bod ni oll yn siarad Portiwgaleg. Felly, dw i’n gweithio’n agosach gyda nhw, a dw i hefyd yn gweithio gyda’r holl gymunedau amrywiol eraill o Wrecsam, gogledd Cymru a phedwar ban byd. Rydyn ni’n gymuned ryngwladol.

Un o’r problemau mawr sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf o’r cymunedau ymfudwyr sy’n byw yng Nghymru yw’r rhwystr iaith. Pan fo rhwystr iaith, dydyn ni ddim yn deall y gyfraith na’r system, a’r rhan fwyaf o’r materion y mae angen inni eu deall i fyw o ddydd i ddydd. Felly, fe wnes i ddechrau cefnogi pobl gyda’r rhwystr iaith a dyna pryd gwnes i ddechrau sylweddoli fod problemau eraill yn bodoli ynghyd â’r problemau hynny. Fe wnaethom ddechrau derbyn cwynion am ddisgyblion yn yr ysgolion yn cael eu trin yn wahanol, ac oedolion yn y gweithle’n cael eu trin yn wahanol hefyd, ynghyd â nifer o achosion eraill. Fe arweiniodd hyn ni i fynd ati i ddarganfod a oedd unrhyw wasanaethau a allai ein cefnogi gyda hynny. Ar y pryd, doedd dim llawer i’w gael ond roedden ni’n ffodus o gael tîm cydlyniant cymunedol da, ac fe wnaethon nhw roi gwybodaeth at ei gilydd mewn amrywiaeth o ieithoedd am droseddau casineb, sut i ddelio ag ef, a phwy i gysylltu efo nhw a chael cefnogaeth ac ati.
Fe wnaethom ni ddechrau hyfforddi ein cymunedau i adael iddyn nhw wybod nad yw hiliaeth yn rhywbeth y dylem ei dderbyn a bod yn fodlon ag ef, yn cynnwys yr angen i adrodd a gwneud rhywbeth amdano. Fe wnaethom wynebu problem arall pan wnaethom ni ddechrau riportio oherwydd nad oedd y gwasanaethau wedi paratoi i ddelio â’r hiliaeth, doedd yr heddlu ddim yn deall beth yw hiliaeth chwaith. Fe wnaethom ddechrau deall bod hiliaeth yn bodoli hyd yn oed yn yr awdurdodau pwysig hynny, ond roedden ni’n lwcus iawn oherwydd roedd yna bob amser rywun oedd yn deall y broblem. Roedden ni’n gallu gweithio o amgylch pethau gyda’r bobl a oedd yn rhan ohono, yn yr heddlu, yn y cyngor, ac yn yr ysgolion i geisio gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae’n broses hir er hynny, oherwydd rydyn ni’n dal i weithio ar y peth.

Mae bywydau Du o bwys ym mhob ffordd, nid yn y gwaith neu’r ysgol yn unig, ond ym mhobman. Mae arnom angen mwy o gynrychiolaeth ar bob lefel o gymdeithas. Mae angen pobl fel ni sy’n ein deall ni, ein diwylliannau a’n hieithoedd. Felly, mae angen inni ddal i frwydro i fod gyda’n gilydd, i ymddiried yn ein gilydd, ac i gael ein ffrindiau a chynghreiriaid i’n helpu ar y siwrne hon. Dydy hyn ddim ond megis dechrau, ac mae’n rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd, ond fel y gwelwn ni, dydy pethau heb newid ryw lawer. ‘Mae Bywydau Du o Bwys’ yw fi, yw ti, yw pob un ohonom. Pan fyddwn ni’n dweud fod bywydau Du o bwys, dydyn ni ddim yn golygu mai dim ond bywydau Du sydd o bwys, rydyn ni oll o bwys yn yr un ffordd.

Dw i wedi bod yn un am weithredu erioed, fues i erioed yn un distaw. Bob tro’r oedd rhywbeth roeddwn i’n gwybod ei fod yn annheg, allwn i ddim jyst cadw’n dawel. Fi yw’r un sy’n gorfod camu i mewn i wneud neu ddweud rhywbeth amdano. Rwyf wedi teimlo’r angen i wneud rhywbeth erioed, fel arall fyddai fy nghydwybod ddim yn gadael imi gysgu. Rwyf wedi bod yn weithredol erioed, ymhell yn ôl pan roeddwn i’n iau, roeddwn i bob amser yn hoffi brwydro dros y bobl a oedd yn cael eu categoreiddio fel pobl eilradd, a doeddwn i erioed yn meddwl fod hynny’n deg. Roeddwn i bob amser yn meddwl, rydyn ni’n gyfartal, fe ddylem ni fod yn trin ein gilydd yn gyfartal. Rydyn ni oll yr un fath, dim ots pwy ydych chi, o ble’r ydych chi’n dod, neu liw eich croen. Dyna dw i’n credu ynddo, dyna fy angerdd i.

Nid mudiad Americanaidd yn unig mo Mae Bywydau Du o Bwys. Daeth yn rhyngwladol ac mae gennym gynrychiolwyr Mae Bywydau Du o Bwys. Efallai mai yn America dechreuodd y mudiad hwn, ond fe deithiodd ar draws y byd yn enwedig ym Mehefin 2020, pan safodd y byd cyfan. Roedd grwpiau newydd a ddechreuodd ffurfio ym mhob rhan o’r byd, yma yng Nghymru ac yn Wrecsam. Felly, nid mudiad i’r Americanwyr yn unig yw hwn.

Peidiwch byth â rhoi’r gorau i frwydro dros eich brodyr a chwiorydd, rydyn ni oll yma i gydweithio a’ch helpu. Jyst daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud, peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, a chredwch ynoch chi’ch hunain. Dyna sut gallwn wneud byd gwell.

Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content