Maeβr mudiad BLM yn golygu lot i mi. Rydw i eisiau i ni gael ein cydnabod, ein cynnwys, aβn parchu yn ein cymuned, dim ots pa liw ein croen neu wlad enedigol.
Nid mudiad Americanaidd yn unig mo Mae Bywydau Du o Bwys, maeβn fyd-eang: mae hiliaeth yn bodoli yn fyd-eang. Maeβn frwydr fawr y maeβn rhaid inni ei brwydroβn ddyddiol aβi chefnogi ym mhob ffordd bosib. Mae angen inni gydsefyll a chael clywed a chydnabod ein lleisiau.
Pan glywais fod ein chwaer Iolanda am drefnuβr brotest, roeddwn iβn gwybod bod yn rhaid i mi fod yn rhan oβr peth oherwydd ei fod yn fater syβn peri pryder nid yn unig i mi ond fy holl frodyr a chwiorydd sydd wedi dioddef gwahaniaethu. . Gwelais y brotest fel cyfle i ni ddod ynghyd mewn undod i godi llais yn erbyn hiliaeth ac ymladd dros ein hawliau.
Roedd gweld George Floyd yn cael ei drin fel y cafodd yn boenus ac roedd yn alwad i ni fod mwy iβw wneud. Wrth gwrs, mae yna ffordd bell oβn blaenau ond rydym wedi cychwyn ar y daith o gael yr hyn y mae ei eisiau arnom, sef diwedd ar hiliaeth a gwahaniaethu.
Cefais brofiad a oedd yn wirioneddol drist i mi ac roedd yn ystod y dyddiau ar Γ΄l Brexit. Es iβr ystafell ffitrwydd yn Wrecsam i wneud fy ymarfer corff arferol, a thraβr oeddwn i wrthi, clywais ferch Brydeinig yn dweud wrth ei ffrindiau βO, maen nhwβn dal o gwmpasβ. Cefais sioc oherwydd eu bod wedi meddwl y byddai pobl Ddu yn mynd yn Γ΄l i’w gwlad ar Γ΄l Brexit a doedden nhw ddim yn disgwyl fy ngweld i a’r ddynes arall yno.
Dw i wastad wedi bod yn berson sydd eisiau byw mewn cymdeithas deg a dwiβn cofio pan oβn i ym Mhortiwgal, ymunais Γ’ llawer o brotestio gan fod gwahaniaethu a hiliaeth yn gyffredin iawn yno hefyd.
Maeβn bwysig iddyn nhw wybod bod angen i ni ymladd bob dydd i fod yn rhan oβr gymdeithas yr ydym yn byw ynddi a chael parch ynddi. Felly, fe ddwedwn i, daliwch ati i frwydro er mwyn y genhedlaeth nesaf, aβr un wedyn. Peidiwch Γ’ gadael i neb eich cam-drin ac os byddwch yn profi hiliaeth, gwahaniaethu, neu gamdriniaeth, peidiwch Γ’ chadwβn dawel, siaradwch amdano ac ewch i gael y gefnogaeth angenrheidiol.
Dim Cyfiawnder, Dim Heddwch.