BLM CODI CYMRU logo web

O’Molemo Thamae

Protest location

BLM Bangor

Share

Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn golygu cymaint i mi oherwydd mae yna ddeffroad mor fawr wedi bod ymysg pawb, dim ymhlith pobl Dduon yn unig, ond hyd yn oed pobl wyn ac Asiaidd o bob oed. Mae BLM yn fudiad byd-eang. Ar ôl gwneud llawer o ymchwil, rwy’n ystyried fy hun yn brotestiwr, rhywun sy’n protestio yn erbyn hiliaeth, yn rhywun sy’n wrth-hiliaeth, yn rhywun egalitaraidd. Felly, wrth feddwl am BLM, rwy’n ei weld fel gwrthwynebiad i’r system honno, sy’n mynd y tu hwnt i oedran, hil, a daearyddiaeth. Rwy’n meddwl ein bod ar flaen y gad, y bobl sydd mewn gwirionedd yn herio’r system honno a pharhad o’r cyfnod Hawliau Sifil, cyfnod nad yw erioed wedi dod i ben. Fuodd ’na erioed amser pan dydi’r newyddion ddim yn dweud wrthym rywsut ein bod ni bellach yn byw mewn cymdeithas ôl-hiliol, ond dydi’r bobl o liw ddim wedi cael gwybod am hyn, felly dydi hynny ddim yn gwneud synnwyr. Dydw i ddim yn ’nabod unrhyw berson sy’n Ddu, yn Asiaidd, neu ddim yn wyn a fyddai’n dweud ein bod yn byw mewn cymdeithas ôl-hiliol. 

 

Y brotest gyntaf fues ynddi oedd ar 13 Gorffennaf 2013, sef protest Mzee Mohammad yn Lerpwl, y ddinas roeddwn i’n astudio ynddi. Ac roedd hynny o ganlyniad i wyth o swyddogion heddlu yn ei ddal i lawr yn L One. I roi cyd-destun, mae L One fel bod mewn canolfan siopa anferth. Roedd camerâu ar bob cornel a chafodd y stori i gyd ei dal ar gamera fwy na pheidio. Rhywsut, fe lofruddiwyd y bachgen ifanc 18 oed hwn, ac aeth neb i’r carchar, er gwaethaf y ffaith fod y cwbl wedi’i ddal ar gamera. Oherwydd pethau fel hyn y cefais i fy nhynnu i mewn i brotestio bryd hynny, a hyd yn oed o ran deall fy safbwynt gwleidyddol, roeddwn fel dechreuwr llwyr. Wyddwn i ddim yn iawn ble’r oeddwn i’n sefyll yn y dŵr bryd hynny. Felly, wrth imi ddechrau dysgu am hanes, dechrau dysgu am wleidyddiaeth, a sut roedd yn effeithio arnaf i yn y pen draw, oherwydd fy mod yn ŵr gradd ac yn chwilio am waith bryd hynny. 

 

O ran ein protest yma ym Mangor, roedd gennym ni dîm anhygoel, ac a dweud y gwir, pobl leol Bangor, ddechreuodd pethau. Pobl wyn oedden nhw, pobl a aned yma. Roedden nhw wedi dychwelyd i Fangor oherwydd roeddent wedi mynd i fyw mewn llefydd eraill. Fe wnaethon nhw ddychwelyd oherwydd sefyllfa COVID ac fel rhan o deimlo mor anghyfforddus ar ôl gweld beth welsant gyda llofruddiaeth George Floyd, nhw mewn gwirionedd oedd y rhai a gysylltodd â ffrind, ac yna fe wnaeth y ffrind gysylltu â fi. Fe wnaethon nhw ofyn yn benodol i bobl o liw Du gymryd rôl arweiniol, ac roedden nhw’n fodlon jyst gwneud pa bynnag waith oedd ei angen i gael pethau i weithio. Fe wnaeth gweld y criw gwych a ddaeth i’r brotest adfer fy ffydd nid yn unig mewn pobl, ond yn fy ardal a chymuned leol. 

Mae angen i bobl ddysgu eu hanes. Fe ddechreuodd America fel trefedigaeth Brydeinig, ac mae hynny’n golygu mai ideoleg Brydeinig a sefydlodd America. Mae’r hiliaeth a welwn yn America yn ganlyniad uniongyrchol o ideoleg a hiliaeth Brydeinig a’r hyn a gafodd ei allforio o Brydain. Wrth gwrs, mae’r Eidal, Sbaen, Portiwgal ac ati wedi ychwanegu ato, yn ei hanfod, i wneud profiadau Americanwyr Du yn rhywbeth y gellid ei alw’n hiliaeth wedi mwtadu’n aruthrol. Ond yn y pen draw, mae angen i bobl ddeall ei fod yn ei hanfod, ar lefel gwbl sylfaenol, wedi dechrau gyda Phrydain. Rydyn ni’n siarad am Gymru, a dydyn ni ddim yn bell iawn o Gastell Penrhyn, ac fe godwyd Castell Penrhyn ar arian caethwasiaeth. Roedd ganddyn nhw chwe threfedigaeth caethweision yn Jamaica. Rydyn ni’n siarad am Gymru eto, Picton, mae ei ddarlun, neu’r canfyddiad o Bicton, wedi’i ddychmygu o’r newydd a’i ail-fframio fel rhan o nifer o brosiectau sydd wedi dod yn sgil BLM a’u gweithgareddau. Oherwydd, eto, nid yn unig yr oedd o’n rhan mor fawr o gaethiwed ei fod yn berchen ar ei gaethweision ei hun, roedd ganddo feistresi, roedd ganddo feistresi Du pan roedd o’n rhaglaw yn Nhrinidad, fe ddienyddiodd bobl Ddu a chaethweision mor hamddenol ag rydyn ni’n bwyta brechdan, mae’n siŵr.

Ar ben yr holl ryfela y bu’n rhan ohono fel lefftenant, wrth gwrs ei fod yn rhan o ryfela, sy’n golygu fod ganddo fwy o waed ar ei ddwylo. Mae pobl fel hyn yn Gymry. Dydy llawer o bobl ddim yn gwybod fod Thomas Jefferson, sef un o’r arlywyddion a sefydlodd America, yn hanu o Gymru, roedd ei bobl o’n dod o Gymru. Felly, pan fo pobl Cymru’n ceisio gwahanu eu hunain oddi wrth hyn, mae angen iddyn nhw gofio, pan roedd Indiaid yn cael eu goresgyn yn America, roedd yr Indiaid hynny, ac wrth gwrs yr Affricaniaid ar gyfandir Affrica, doedden nhw ddim yn rhedeg i ffwrdd rhag y Saeson neu’r Albanwyr neu’r Gwyddelod neu’r Cymry. Roedden nhw’n rhedeg rhag y Prydeinwyr. Sy’n golygu bod ynysoedd Prydain i gyd a phawb sydd mewn pŵer, roedd ganddynt oll ran yn hynny.

Rwy’n byw ger Bangor, yn Ynys Môn, ac roeddwn i’n teimlo’n ynysig gan mai fi oedd yr unig blentyn Du yn fy ysgol gyfan, ac roedd hiliaeth yn amlwg gan bawb, yn cynnwys yr athrawon. Ar fy niwrnod cyntaf un, fe ges i helynt am fy mod rywsut neu’i gilydd heb y wisg ysgol lawn, er eu bod yn gwybod mai dyna fy niwrnod cyntaf, oherwydd fi oedd yr unig blentyn Du yn yr ysgol. Cefais fy ngwaeddi arnaf a daeth un plentyn ataf i a galw’r gair N arnaf i, ac aeth pethau’n dreisgar, a fi oedd yr unig un a gafodd helynt am hynny. Felly, dyma fi’n sylwi’n sydyn sut mae’r system yn gweithio, a bu’n rhaid i mi baratoi fy hun i ddelio â hynny.
Fe wnaeth gwylio llofruddiaeth George Floyd ar y cyfryngau cymdeithasol a sut roedd hynny’n wahanol iawn i’r newyddion cenedlaethol a ddarlledwyd beri imi deimlo’n llawn trallod ac roeddwn i wedi fy syfrdanu. Fe gipiodd fy anadl. Yn wir, fe ges i’r fath fewnlifiad o emosiynau ar y pryd nad oeddwn i’n gwybod sut i brosesu’r un ohonyn nhw. Roeddwn i’n wyllt gacwn, wrth gwrs. Roeddwn i’n flin gweld yr hyn sy’n teimlo i mi fel gweld fy hun yn y person hwnnw. Rwy’n teimlo fel os gall unrhyw un wylio person yn marw, gwrando arnyn nhw’n galw am eu mam a meddwl fod hynny’n gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel, yna mae rhywbeth o’i le ar y person hwnnw.

Beth bynnag rydych chi’n teimlo yr hoffech ei wneud, gwnewch o! Dechreuodd fy llwybr i tuag at fod yn arweinydd y brotest George Floyd pan roeddwn i, fel y dwedais i, ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe welais i beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw ac am gwpl o ddyddiau roeddwn i’n teimlo’n anniddig ac allwn i ddim gwneud dim byd. Roeddwn i mewn parlys llwyr. Fe wnes i jyst bwyta a chysgu am gwpl o ddyddiau oherwydd dyna’r cwbl oedd ar fy meddwl. Felly, o ganlyniad i hynny, allwn i ddim gwneud unrhyw beth ond gweithredu. Ac roeddwn i’n teimlo fel bod fy nghorff a fy enaid yn dweud wrthyf mai dyna’r unig beth y dylwn ddefnyddio fy egni ar ei gyfer. Felly, os oes gennych chi unrhyw deimladau fel’na, gwrandewch ar eich greddf ac ewch amdani a gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Siaradwch gyda’ch ffrindiau. Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n debygol o deimlo’n debyg i chi, siaradwch efo nhw amdano hefyd. Siaradwch gyda’ch teulu a gweld a allwch chi o leiaf gael ychydig o gefnogaeth o fanno hefyd.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content