BLM CODI CYMRU logo web

Selena Earney

Protest location

BLM CaerdyddBLM Cardiff

Share

Ar fore’r 30ain o Fai, tua phum niwrnod ar ôl llofruddiaeth George Floyd; roeddwn i’n sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac roeddwn i’n gallu gweld yr holl boen, y gofid a’r dicter, ynglŷn â sut y cafodd ei drin a sut mae’r gymuned Ddu yn cael ei thrin yn gyffredinol. Ro’n i’n teimlo mor ypset gan y peth nes i mi fynd ar Twitter, Facebook ac Instagram dim ond i weld a oedd unrhyw un yn gwneud rhyw fath o wrthdystiad neu brotest. Yng Nghymru, rydyn ni’n credu bod hiliaeth yn gwbl wrthun ac mae’n bwysig cydnabod yr hiliaeth sy’n digwydd yn y wlad hon.
Ystyr bod yn Gynghreiriad i mi yw gwrando’n astud, peidio â siarad ar draws neb, a chlywed beth sy’n digwydd yn y wlad yma mewn gwirionedd, oherwydd os na wnawn ni wrando fe fyddwn ni’n dal i fod yn anwybodus, ac allwn ni fyth newid unrhyw beth nac ychwaith wybod y gwir hyll sy’n llechu yn lle rydyn ni’n byw. Y rheswm bod y brotest yma wedi digwydd oedd am fod angen gwneud safiad, roedd angen rhywle i bobl rannu eu straeon, rhannu eu profiadau a chael eu clywed, yn hytrach na meddwl ‘o, wel, os nad yw e’n digwydd i fi, dyw e ddim yn digwydd’. Nid dyna’r gwir.

Sefydlais fy mhrotest fach fy hun. Doeddwn i ddim yn disgwyl i unrhyw un ddod a dweud y gwir, roeddwn i’n meddwl mai fi a fy ffrind a chydweithiwr Seun fyddai yno gydag arwydd cardbord. Roedd yr ymateb a gawsom yn anhygoel a’r sylw a gawsom yn tyfu fel caseg eira.
Dechreuodd gyda 100 o bobl, yna 200 o bobl, ac yna o fewn 24 awr, roedd gennym ni tua 1000 o bobl yn dweud eu bod am ddod ac roedd e’n rhyfeddol. Ond yn y bôn, fe wnes i jyst mynd a throi fyny a daeth pawb arall a gwneud y gweddill. Roeddwn i wedi syfrdanu gan yr holl straeon, ac roedd y profiad yn agoriad llygad i mi gan fy mod yn eithaf anwybodus am hiliaeth yng Nghymru, ac mae’n debyg bod hynny’n wir o hyd i raddau helaeth. Rwyf bob amser eisiau addysgu fy hun a gwybod mwy am y wlad rwy’n byw ynddi a sut mae’n trin ein pobl, a chefais fy syfrdanu gan ddewrder a gonestrwydd pobl i adrodd eu straeon o flaen pawb.

Fe fuaswn yn dweud wrth bobl sy’n meddwl mai mater Americanaidd yw Mae Bywydau Du o Bwys, nad yw hynny’n wir. Mae hiliaeth ym mhobman a rhaid inni beidio â’i dderbyn. Mae angen inni ei wrthsefyll. Deallais yr ofn oedd gan bobl nad oeddent eisiau cyfarfod mewn grwpiau mawr yn ystod y pandemig. Ond y peth yw ein bod ni wedi dweud pellter cymdeithasol, fe wnaethon ni ddod â masgiau ac annog gwisgo masgiau, roedd yna bobl na ddaeth oherwydd eu bod yn sâl. Fe wnaeth pawb a fynychodd y protestiadau ymddwyn yn gyfrifol ac ni fu unrhyw gynnydd sylweddol mewn achosion COVID nac yn yr ysbytai ar ôl y brotest. Felly, nid wy’n credu ei fod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth beth bynnag.

Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw nad oes rhaid iddo fod yn rhyw fath o ddatganiad mawreddog. Mae jyst bod yn bresennol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r holl newidiadau bach hyn y gallwch chi eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth. Sefyll dros rywun. Os ydych chi’n clywed rhywbeth yn digwydd, yn gweld rhywbeth yn digwydd, yn sefyll drosto, dyna’r newid sy’n gwneud y gwahaniaeth. P’un a ydych chi’n cynllunio gwrthdystiad neu brotest neu ddim ond yn mynychu ac yn gwrando, dyna’r gwahaniaeth. Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth yn gwneud hynny ac yn cadw’n driw i’ch delfrydau a’ch moesau.
Dim cyfiawnder, dim heddwch

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content