BLM CODI CYMRU logo web

Tia Roach

Protest location

BLM Caerdydd

Share

Ystyr Mae Bywydau Du o Bwys i mi yw derbyn eich hunan ar lefel radical, derbyniad radical o’ch cymuned yn wyneb gormes, ataliaeth, hiliaeth a dosbarthiaeth, ac mae’n golygu undod â’r rhai yn eich cymuned. Ac rwy’n credu y bydd undod hirdymor drwy Mae Bywydau Du o Bwys a thrwy sefydliadau sy’n bodoli’n agos i Mae Bywydau Du o Bwys yn arwain at ryddhau’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae’n bwysig oherwydd bod holl systemau goruchafiaeth y gwyn, holl systemau o greulondeb gan yr heddlu, maen nhw oll yn systemau a ddysgwyd, ac fe ddysgwyd y rhan fwyaf o’r systemau hynny gan y Deyrnas Unedig. Cafodd y system blismona fodern sydd gennym ar hyn o bryd ei defnyddio’n gyntaf yn Iwerddon i atal y mudiad Gweriniaethol Gwyddelig. Ac yna daethpwyd â’r dulliau hynny drosodd yma. Mae America fel arfer yn troi at y Deyrnas Unedig am gymorth, p’un a yw hynny ar gyfer ariannu amrywiol weithrediadau milwrol, ariannu gweithrediadau heddlu, ac arfogi’r heddlu. Felly, mae’r Deyrnas Unedig yn gwbl euog. Ac mae cymaint o dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae hynny hefyd wedi’i brofi gyda phrotestiadau Palesteina dros ryddhau Palesteina, lle mae grwpiau gweithredu Palesteinaidd wedi bod yn targedu cymaint o ffatrïoedd arfau yma yn y Deyrnas Unedig. Y peth yw fod llawer o systemau gormes ar y blaned hon, gyda’u gwreiddiau yn y wlad yma, ac ni fydd esgus nad yw hynny’n wir o help i unrhyw un yn ein cymuned.
Ynglŷn â dilyn rheolau Covid-19, rwy’n deall yn llwyr, fel rhywun sy’n adnabod pobl sydd ag imiwnedd isel, sy’n fwy tebygol o farw o COVID, bod angen mawr i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, i ddilyn yr holl reolau a fydd yn ein cadw ein cymuned yn ddiogel. Ac yn bendant mae’n weithred hunanol mynd allan yn ddiangen yn ystod pandemig pan fo cymaint o aelodau ein cymuned mewn perygl oherwydd y pethau hyn. Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd arnom fel aelodau o’r gymuned, fel bodau dynol, i godi llais dros y rhai sy’n cael eu hatal, eu gorthrymu gan wahanol sefydliadau sefydledig ​​yn ein cymdeithas, oherwydd tra maen nhw’n mynd ymlaen heb gael eu diddymu, fe fyddan nhw yno o hyd, yn gormesu grwpiau sydd ar yr ymylon. Felly, mae’n rhaid i ni ddod allan bob amser a chefnogi’r grwpiau hynny, ni waeth beth.

Roedd marwolaeth George Floyd fel pe bai’n cynrychioli cyfuniad o’r holl drawma ail-law o weld pobl Ddu, menywod Du, plant Du, dynion Du yn cael eu lladd yn ddidrugaredd gan y rhai mewn pŵer neu â phŵer tybiedig yn ein cymunedau. Rwyf wedi tyfu i fyny yn ystod nifer o ryfeloedd, felly rwyf wedi gweld pobl Ddu a brown yn cael eu gadael ar y ffin, yn cael eu bomio, eu lladd yn ddidrugaredd ac yn awr yn wynebu gwahaniaethu ar ôl cyrraedd hafan ddiogel fel y Deyrnas Unedig. Maen nhw hefyd yn wynebu Islamoffobia a hiliaeth. Felly, fe wnes i galedu i wahaniaethu ac i hiliaeth oherwydd mae hynny’n brofiad bob dydd i gymaint o bobl fel fi. Ond roedd gweld llofruddiaeth George Floyd, lle roeddwn yn llythrennol yn gwylio ei fywyd yn gadael ei gorff, yn bendant yn ddigwyddiad mawr yn fy mywyd ac fe wnaeth i mi fod eisiau gweithredu yn fy nghymuned oherwydd doeddwn i ddim am i hynny ddigwydd yn fy nghymuned i. Roeddwn i eisiau bod yn rhagweithiol, nid yn adweithiol, ac rwy’n credu mai felly roedd llawer o bobl yn ein cymuned yn teimlo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Digwyddodd achosion marwolaethau Christopher Kapessa, Mahmoud Hassan, Moayed Bashir a charcharu Siyanda ar garreg fy nrws, felly doedd dim modd eu hanwybyddu, doedd yna ddim ffordd o gyfiawnhau gweithred o greulondeb o’r fath ac roedd hynny’n gwneud i mi eisiau addysgu fy hun, oherwydd er i mi brofi hiliaeth gartref, roeddwn i bron eisiau credu nad oedd yn broblem yn y wlad hon oherwydd doeddwn i ddim eisiau credu fy mod yn byw mewn cymdeithas lle’r oedd pobl yn gwahaniaethu oherwydd lliw croen, er enghraifft. Mor naïf ag y mae hynny’n swnio, roeddwn i eisiau rhyw fath o fodlonrwydd drwy anwybodaeth o’r ffaith bod pobl yn cael eu llofruddio yn fy nghymuned. Ond fe wnaeth clywed am yr achosion hynny, cyfarfod â’r teuluoedd a’r bobl y tu ôl i’r achosion hynny, fy ngwneud i’n fwy radical a gwneud i mi fod eisiau brwydro am gyfiawnder a diddymu’r nifer fawr o sefydliadau a roddodd gymaint o boen i’r teuluoedd hyn. Fel unigolyn, fe wnaethon nhw fy ngwneud yn fwy radical fel gweithredwr, fel unigolyn gwrth-gyfalafol, ac fel unigolyn gwrth-hiliaeth.
Ar ôl y brotest gyntaf yn 2020, rydym wedi bod wrthi drachefn yn cynnal protestiadau pellach, protestiadau mwy arbenigol ar fewnfudo, croesawu ffoaduriaid, gwrth-senoffobia, sydd wedi profi’n rhannol i mi nad oes dim wedi newid mewn gwirionedd, sy’n dorcalonnus. Ond mae wedi gwneud i mi ystyried y ffaith bod ffieidd-dod yn wyneb hiliaeth yn adweithiol ac na fydd hynny’n arwain at unrhyw newid. Yr hyn sydd ei angen arnom yw addysg radical i’r cyhoedd er mwyn creu newid ac er mwyn ceisio rhyddhau pobl sydd wedi’u gwthio i’r cyrion. Er hynny, mae’n braf dod yn ôl i fan lle blodeuodd fy ngweithredu gyntaf a dangos cymaint rydw i wedi tyfu yn fy ngweithredu a faint rydw i wedi’i ddysgu gan fy nghymrodorion yn Mae Bywydau Du o Bwys a gweithredwyr o’r gorffennol hefyd.

Rwyf bob amser wedi bod yn lleisiol, ond ddim bob amser yn weithredol. Rwy’n meddwl fy mod wedi cael trafferth dod o hyd i’m lle ym myd gweithredu cymdeithasol oherwydd roeddwn bob amser yn meddwl bod yn rhaid i mi fod yn rhywun heblaw pwy ydw i. Yn naturiol, fel siaradwr cyhoeddus rwyf wedi gorfod hyfforddi fy hun i siarad yn gyhoeddus, i wneud yr areithiau angerddol, llawn ysbrydoliaeth hyn pan a minnau’n teimlo nad yw hynny’n dod yn naturiol i mi. Ond roedd gwybod bod cymaint o rolau y gallwch chi eu cael y tu ôl i’r llenni sy’n gwthio ein mudiad ymlaen yn rhywbeth yr oedd angen i mi ei glywed er mwyn i mi gymryd y camau o’r diwedd i ddod yn aelod gweithgar yn fy nghymuned.

Yn yr ysgol gefais i fy mhrofiad cyntaf o hiliaeth, a dweud y gwir, yn hytrach na lle rwy’n byw, oherwydd rwy’n byw mewn ardal dosbarth gweithiol, sy’n amrywiol yn ddiwylliannol, ac yn ardal groesawgar iawn. Yn fy ardal i roedd y cymunedau Du a Somali hynaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, mae gennym hanes cyfoethog o dderbyn pobl. Ond pan es i i’r ysgol ddigwyddodd e gyntaf, oherwydd roeddwn i’n arfer mynd i ysgol Gymraeg, a oedd yn ysgol andros o wyn a dosbarth canol. Felly, roeddwn i’n teimlo llawer o ddieithrwch yn ystod y cyfnod hwnnw. Teimlais hefyd fod ryw natur o fod yn ‘arall’ neu fod pobl yn betrusgar a chwithig iawn wrth drafod fy nghefndir diwylliannol neu fy nhreftadaeth oherwydd bod anwybodaeth bron ynghylch diwylliant Du.

Fe fuaswn i’n dweud: addysgu eich hunain yn radical ar yr hanes a ddaeth o’ch blaen. Fyddwn i ddim yma heddiw heb addysg radical Malcolm X. Asanta Shakur, Angela Davis, Martin Lenin. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni’n sefyll ar ysgwyddau cewri, ac fe wnaethon nhw ddysgu cymaint i ni am sut i wella ein hamodau materol yn yr oes fodern. Ac rwy’n meddwl bod estyn allan yn y gymuned yn gwbl allweddol. Mae caru eich cymydog, caru cymydog eich cymydog, caru eich cymuned i gyd yn radical a’u derbyn yn allweddol i weithredu, oherwydd rwy’n teimlo yn yr oes sydd ohoni ac yn oes y cyfryngau cymdeithasol, bod llawer o weithredu’n digwydd lle mae presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch helpu’r gymuned. Ond pan mae hi’n dod i helpu’r digartref yn eich cymuned, helpu pobl heb eu dogfennau neu ffoaduriaid, maen nhw’n absennol. Felly, rwy’n meddwl bod estyn allan at y bobl sy’n aml yn cael eu hanwybyddu mewn mudiadau cyfiawnder cymdeithasol yn mynd i gymryd rhan, oherwydd bod eu diogelwch yn y fantol neu oherwydd eu bod yn teimlo na fyddai croeso iddynt. Nhw yw’r bobl sydd fwyaf o angen ein cymorth. Felly, os ydych chi eisiau gweithredu, dechreuwch o’r cyrion a thynnwch bobl i mewn, dyna sy’n allweddol yn fy marn i.
Dim cyfiawnder, dim heddwch.

Was this resources helpful?

Disclaimer

Photo Gallery

BLM CODI CYMRU logo web

You might also like

BLM CODI CYMRU logo web
keyboard_arrow_up
Skip to content